Mwy o Newyddion

RSS Icon
11 Tachwedd 2015

Dacw Mam yn Dwad’ – Pantomeim yn deyrnged i ymgyrchydd iaith

Am y tro cyntaf, ar ôl 12 mlynedd o greu pantomeimiau yn yr iaith Gymraeg, bydd y diddanwr plant poblogaidd o Bontypridd, Martyn Geraint, yn troi’i gefn ar straeon cyfarwydd y panto ac yn creu sioe newydd sbon wedi’i hysbrydoli gan yr hwiangerdd Gymraeg adnabyddus i blant – ‘Dacw Mam yn Dwad’. 

Bydd y cymeriadau adnabyddus fel Dafi Bach, Sioni Brica Moni, y fuwch yn y beudy, y llo a’r mochyn bach, yn ganolog i’r stori, ynghyd â’r fam. Ond mae’r stori ychydig yn wahanol i’r ‘panto’ arferol. 

“Ar ôl siarad gyda nifer o bobl ar hyd a lled Cymru, dw i wedi newid pethe rhywfaint eleni , a chreu sioe sy’n llawer fwy Cymreig o ran naws a neges, a sy’ ddim yn ddibynnol ar fachgen ifanc sy’n gorfod cael lot o arian cyn gallu priodi’r dywysoges hardd!" meddai Martyn Geraint.

"Mae stori ‘Dacw Mam yn Dwad’ yn seiliedig ar y fam, sy’n gwrthod talu rhent, am fod y llythyr rhent yn uniaith Saesneg – fy nheyrged bach i falle, i Eileen Beasley oedd yn athrawes arna’i yn Ysgol Rhydfelen.

"Mae yna straeon mor bositif am dŵf y Gymraeg ac ysgolion Cymraeg, ac eto mae cymaint o’r plant yn yr ysgolion yna’n siarad Saesneg a’u gilydd yn aml. Felly, yn gymysg â’r canu, dawnsio, pypedwaith, a rhialtwch arferol y panto, mae yna negeseuon bach cynnil fydd gobeithio yn annog plant i ddefnyddio mwy o’r iaith Gymraeg ac i werthfawrogi eu treftadaeth.”

Yn ymuno gyda Martyn eto eleni fydd Gwion Aled o Lanrwst, ac yn troedio llwyfan y pantomeim am y tro cyntaf, fydd Gareth Elis o San Clêr, Anni Dafydd o Lanbed a Heledd Gwynn sy’n wreiddiol o Grymych. Ac yn cyfarwyddo eto eleni, fydd yr actor a’r cyfarwyddwr theatr, Gareth John Bale.

Bydd taith ‘Dacw Mam yn Dwad’ yn cychwyn yn Theatr y Congress, Cwmbran ar Dachwedd 17, ac yn gorffen, yn dilyn ymweliad â 17 o wahanol theatrau a neuaddau led led y wlad, yn Neuadd Pontyberem ar Rhagfyr 18.  

Bydd pob ysgol fydd yn mynd i weld y panto eleni, yn hytrach na derbyn rhaglen, yn cael CD o ganeuon ‘Dacw Mam yn Dwad’, sy’n cynnwys cyfres o ganeuon newydd fydd yn gymorth i blant ddysgu tablau 2, 3 a 4. 
 
Y daith
Tachwedd 17 ac 18 - Theatr Congress Cwmbran 

Tachwedd 19 a 20 - Theatr Parc a Dar, Treorci 

Tachwedd 23 - Pafiliwn y Grand, Porthcawl

Tachwedd 24 - Neuadd William Ashton, Wrecsam

Tachwedd 25 - Theatr Bae Colwyn

Tachwedd 26 - Neuadd Buddug, Y Bala

Tachwedd 27 - Canolfan Ucheldre, Caergybi

Tachwedd 30 a Rhagfyr 1 - Theatr Mwldan, Aberteifi

Rhagfyr 2 - Sefydliad y Glöwyd, Y Coed Duon

Rhagfyr 4 - Theatr Taliesin, Abertawe

Rhagfyr 6, 7 a 8 - Neuadd Dwyfor, Pwllheli

Rhagfyr 9, 10, 11 a 12 - Galeri, Caernarfon

Rhagfyr 14 - Neuadd Gwyn, Castell Nedd

Rhagfyr 15 - Theatr Hafren, Y Drenewydd

Rhagfyr 16 - Theatr Brycheiniog

Rhagfyr 17 - Y Neuadd Lês, Ystradgynlais

Rhagfyr 18 - Neuadd Pontyberem

Rhannu |