Mwy o Newyddion
All pobl hŷn ddim ymddiried yn y Ceidwadwyr i’w cefnogi - Elin Jones
Mae Plaid Cymru wedi beirniadu’r Ceidwadwyr am doriadau nas gwelwyd eu bath yn y gwasanaethau y mae pobl hŷn yn dibynnu arnynt.
Cyn dadl yn y Cynulliad lle mae’r Ceidwadwyr yn galw am adolygiad o’r gefnogaeth sydd ar gael i bobl hŷn, dywedodd Elin Jones o Blaid Cymru mai’r blaid Geidwadol oedd yn gyfrifol am y toriad mwyaf mewn cefnogaeth i bobl hŷn ers cyn cof.
Dywedodd Elin Jones fod toriadau i gyllidebau awdurdodau lleol wedi golygu torri’n ôl ar wasanaethau gofal cymdeithasol, llyfrgelloedd, canolfannau hamdden, addasiadau tai a chludiant cyhoeddus, ac y byddai toriadau pellach yn brifo pobl hŷn fwy fyth.
Ddoe cyhoeddodd y canghellor y byddai llywodraeth leol yn wynebu toriad pellach o 30% yn eu cyllideb.
Mae Plaid Cymru yn wastad wedi gwrthwynebu cynlluniau ideolegol y Ceidwadwyr i dorri ar wasanaethau hanfodol i gymunedau.
Dywedodd Elin Jones y bydd cynlluniau ei phlaid hi i ddileu ffioedd am ofal cymdeithasol, ac integreiddio gofal iechyd a chymdeithasol yn llawn, yn gwneud i ffwrdd â llawer o’r pryder ariannol sy’n gysylltiedig â heneiddio.
Dywedodd Gweinidog Iechyd cysgodol Plaid Cymru Elin Jones: “Mae llywodraeth y DG yn gyfrifol am doriadau nas gwelwyd eu bath i’r gwasanaethau y mae pobl yn dibynnu arnynt.
"Gall toriadau i wasanaethau cymdeithasol, cludiant cyhoeddus a gwasanaethau lleol adael pobl hŷn yn unig, a dengys tystiolaeth fod toriadau i wasanaethau cymunedol yn gallu cael sgil-effaith ar wasanaethau iechyd, gyda mwy o bobl yn cael eu cymryd i’r ysbyty am nad oes gofal ataliol ar gael.
“Dyna pam y cynigiodd Plaid Cymru gynlluniau ar gyfer GIG Cymunedol, gyda gwasanaethau iechyd yn cael eu cyflwyno yn y gymuned. Rydym eisiau dileu taliadau am ofal cymdeithasol i bobl hŷn, gan dorri i lawr y rhagfur olaf rhwng iechyd a gofal cymdeithasol a gwneud i ffwrdd â’r pryder o orfod talu am ofal.
“Bydd Plaid Cymru yn parhau i wrthwynebu’r toriadau ideolegol Torïaidd i wasanaethau y mae pawb yn ein cymunedau yn dibynnu arnynt.”