Mwy o Newyddion
“Mae er lles Cymru i chwarae ein rhan yn Ewrop” – Leanne Wood
Wrth ymateb i araith y Prif Weinidog ar brif ofynion llywodraeth y DG ynghylch ail-drafod eu haelodaeth o’r UE, dywedodd arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood: “Mae Cymru yn genedl Ewropeaidd sy’n edrych tuag allan, ac a fyddai’n elwa yn genedlaethol o aros yn yr Undeb Ewropeaidd.
“Nid yn unig y mae aelodaeth o’r UE yn sicrhau llwybr i Gymru at y farchnad sengl, ond fel aelodau o’r UE, gallwn chwarae ein rhan yn ffurfio’r math o Ewrop sydd yn gwasanaethu buddiannau ei dinasyddion.
"Ar yr adeg hon o’r flwyddyn, mae mor bwysig cofio rôl yr Undeb Ewropeaidd yn cadw heddwch ar ein cyfandir.
“Rhaid i ofynion y Prif Weinidog am ddiwygio yn awr fod yn destun trafodaeth a dadl lawn.
"Mae Plaid Cymru eisiau cadw’r agweddau hynny o aelodaeth yr Undeb Ewropeaidd sy’n golygu ein bod yn well ein byd.
"Ymddengys bod arian strwythurol sy’n mynd i Lywodraeth Cymru, a thaliadau amaethyddol sy’n cynnal y diwydiant amaethyddol Cymreig, yn ddiogel, ond bydd angen eu gwarchod yn llawn yn ystod y ddadl sydd yn awr yn gorfod cychwyn mewn difrif.
“Bydd Plaid Cymru yn gwrthwynebu unrhyw ymgais i lasdwreiddio’r camau sydd yn ein gwarchod trwy’r Gonfensiwn Hawliau Dynol Ewrop nac unrhyw gynlluniau i ddileu’r Ddeddf Hawliau Dynol.
“Er na fyddai neb yn gwrthwynebu rhoi terfyn ar reoleiddio beichus a diangen, rhaid i ni fod yn wyliadwrus rhag unrhyw ymgais i wrthdroi neu wanhau deddfau Ewropeaidd sydd wedi helpu i amddiffyn gweithwyr Cymru a’n hamgylchedd.
“Bydd Plaid Cymru yn ymladd dros i Gymru chwarae rhan hanfodol mewn Undeb Ewropeaidd fwy democrataidd sy’n gwasanaethu pobl. Mae gennym weledigaeth am Ewrop well a gwahanol.”