Mwy o Newyddion
Yr Urdd yn lansio partneriaeth newydd gyda Llyfrau Llafar Cymru
Dydd Iau, 12 Tachwedd bydd yr Urdd yn cyhoeddi partneriaeth newydd gyda Llyfrau Llafar Cymru. Fel rhan o’r bartneriaeth, bydd nifer o enillwyr llenyddol Eisteddfod yr Urdd yn recordio eu gwaith er mwyn eu cynnwys mewn cyhoeddiad misol i’r deillion.
Y rhai cyntaf i recordio eu gwaith oedd enillwyr y gadair a’r goron dros y pum mlynedd diwethaf a bydd rhain yn cael eu cynnwys mewn cyhoeddiadau i’r deillion o ddechrau’r flwyddyn. Ond mi fydd cyfle hefyd i blant a phobl ifanc iau recordio gwaith buddugol – gyda’r gobaith o ymestyn yr ystod i gynnwys dramodwyr a cherddorion.
Mae trafodaethau hefyd yn cael eu cynnal o ran creu fersiwn sain o gylchgronau’r Urdd ar gyfer y deillion – mae gan yr Urdd dri cylchgrawn misol, Cip, Bore Da a Iaw a’r bwriad i ddechrau fydd creu fersiwn sain o’r ddau gynradd – sef Cip i blant cynradd Cymraeg iaith gyntaf a Bore Da i ddysgwyr cynradd. Aelodau’r Urdd fydd yn cael eu recordio yn darllen y cylchgronau a bydd cystadleuaeth i ddarllenwyr ysgrifennu stori ar gyfer y fersiwn sain.
Mae Llyfrau Llafar Cymru wedi bod yn cynnig fersiynau sain o lyfrau a phapurau newydd ers 1979 ac er bod ambell her wedi eu hwynebu wrth gyllido’r cynllun, maent yn ddiweddar wedi symud i adeilad newydd yng Nghaerfyrddin o’r enw Tŷ Llafar.
Yn ôl Sulwyn Thomas, Cadeirydd Llyfrau Llafar Cymru: “Er bod Llyfrau Llafar Cymru â stoc o dros ddwy fil o lyfrau sain, gan gynnwys nifer o lyfrau i blant, gwelwn y bartneriaeth yma yn ffordd o ehangu 'r deunydd ar gyfer rhai sydd yn ei chael hi'n anodd i ddarllen print.
"Yn ogystal a rhoi cyfle i bobl newydd werthfawrogi 'r holl dalent creadigol sydd yn deillio o eisteddfodau'r Urdd, rydym hefyd yn falch bod y mudiad wedi cydio yn y syniad o gynnal cystadleuaeth i ysgrifennu stori yn benodol ar gyfer plant sydd â phroblemau gweld.
"Bydd yn sialens arbennig i ysgrifenwyr ifanc a llenorion y dyfodol.”
Ychwanegodd Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr Urdd: “Rydym yn hynod o falch o lansio y bartneriaeth newydd hon gyda Llyfrau Llafar Cymru.
"Mae gennym ni stoc o enillwyr, gyda gwaith o safon, y gallwn gynnig i gyhoeddiadau’r deillion – mae’n bartneriaeth naturiol rhywsut.
"Rydym hefyd yn awyddus i gynnig fersiwn sain o’n cylchgronau – gan eu bod llawn deunydd megis straeon hwyliog a jocs, sydd yn benthyg ei hun yn berffaith i ddeunydd llafar.”
Bydd lleisiau aelodau’r Urdd i’w clywed ar gynyrchiadau Llyfrau Llafar Cymru o ddechrau’r flwyddyn newydd.