Mwy o Newyddion
Goroeswr yn cael ei goroni'n Goeden Gymreig y Flwyddyn
Mae pobl Cymru wedi dewis derwen sydd erbyn hyn yn sefyll yn falch yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol fel Coeden Gymreig y Flwyddyn ar gyfer 2015.
Fe dderbyniodd y goeden, bedyddiwyd fel 'Goroesi ar wrth yr ymyl torri', 28% o'r pleidleisiau a fwriwyd mewn cystadleuaeth agos gyda chwe choeden arall trwy Gymru benbaladr, a drefnwyd gan Coed Cadw (Woodland Trust) ac a gefnogwyd gan chwaraewyr y People’s Postcode Lottery.
Mae 'Goroesi ar wrth yr ymyl torri' yn ymuno â Gellygwydden Cubbington yn Lloegr, Derwen y Swffragetiaid yn yr Alban a Choeden Heddwch yng Ngogledd Iwerddon yng Nghystadleuaeth Coeden Ewropeaidd y Flwyddyn ym mis Chwefror 2016. Fe fydd modd i’r cyhoedd bleidleisio ym mis Chwefror y flwyddyn nesaf.
Cynigiwyd y goeden hon gan ddyn lleol, Terry Treharne, a ysgrifennodd ar y ffurflen enwebu: "Pan gefais fy ngeni roedd y tir sydd bellach yn Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru wedi ei rannu’n saith fferm gychwynnol.
"Er mwyn ennill arian poced yn 14 oed, fe gefais y gwaith o glirio padog oedd wedi gordyfu. Gan ddefnyddio pladur, fe gliriais ddarnau helaeth ohono, hyd nes i boen arteithiol ddatblygu yn fy mhenelin, a bu'n rhaid rhoi'r gorau i’r gwaith.
"Ar ôl dychwelyd ddeuddydd yn ddiweddarach, fe wnaeth y ffermwr fy atgoffa (er nad oedd wedi dweud wrthyf o'r blaen) i beidio â thorri’r dderwen yn y padog. Felly, oni bai am fy mhenelin, fe fyddwn i wedi dinistrio’r goeden hardd hon."
Dywed David Hardy o Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru: "Rwyf wrth fy modd hwn goeden ryfeddol wedi cael ei dewis fel coeden Gymreig y Flwyddyn.
"Mae’n amlwg fod rhywbeth yn y stori am oroesiad ffodus y goeden hon wedi taro deuddeg gyda’r cyhoedd. Y newyddion da yw bod y goeden hon yn dal yma ac yn gallu cymryd ei lle ymhlith 8,000 o rywogaethau o blanhigion gwahanol yn ymestyn dros 560 o erwau o gefn gwlad prydferth sy'n ffurfio Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. "
Dywedodd Beccy Speight, prif weithredwr Coed Cadw: "Mae'r pedair coeden i gyd yn dangos sut mae’n bywydau ni ynghlwm â byd naturiol. Yn anffodus, mae yna lawer o goed eiconig sy ddim yn cael y diogelwch maen nhw’n haeddu ac mae’r gystadleuaeth hon yn tynnu sylw at yr angen i sicrhau eu bod yn goroesi i genedlaethau’r dyfodol eu mwynhau, a’r cof amdanynt i barhau.”
Dywedodd Annemiek Hoogenboom, cyfarwyddwr y Poeple’s Postcode Lottery: "Cystadleuaeth arbennig yw Cystadleuaeth Coeden y Flwyddyn, sy’n creu cysylltiad rhwng pobl a choed.
"Mae rhannu a chofio straeon am goed yn helpu cenedlaethau'r dyfodol i’w caru a’u hamddiffyn. Rwy'n falch iawn bod chwaraewyr y People’s Postcode Lottery yn helpu darganfod coed rhyfeddol o bob cwr o'r Deyrnas Unedig."
Nod ymgyrch i ddathlu coed arbennig, a drefnir gan Coed Cadw, yw ceisio creu cofrestr ar gyfer Coed o Ddiddordeb Arbennig Cenedlaethol ym mhedair gwlad y DU ac mae dros 13,000 o bobl wedi ei chefnogi hyd yn hyn. Am ragor o wybodaeth ewch at http://www.woodlandtrust.org.uk/get-involved/campaign-with-us/our-campaigns/vi-trees/cymru/