Mwy o Newyddion
Rhybudd am dudalen ffug Gwledd y Gaeaf ar y Glannau
Mae Cyngor Abertawe yn rhybuddio preswylwyr ac ymwelwyr am dudalen Gwledd y Gaeaf ar y Glannau ffug ar Facebook.
Mae'r dudalen answyddogol, o'r enw 'Swansea Waterfront Winterland', wedi bod yn defnyddio logo a llun tudalen flaen y cyngor o ddigwyddiad y llynedd heb ganiatâd.
Mae'r dudalen hefyd wedi bod yn cynnal cystadleuaeth ffug lle mae gwobr o 20 tocyn reid yn gyfnewid am sylwadau ac enghreifftiau o hoffi a rhannu wedi cael ei hysbysebu. Roedd y person sy'n gyfrifol am y dudalen hefyd wedi cysylltu â'r fenyw oedd wedi 'ennill' y gystadleuaeth i ofyn iddi a oedd am dderbyn ei gwobr drwy'r post neu ei chasglu'n bersonol o 'stondin'.
Enw tudalen swyddogol Cyngor Abertawe ar Facebook, sy'n cynnwys manylion am Wledd y Gaeaf ar y Glannau ac atyniadau Nadolig eraill Abertawe, yw 'Nadolig Abertawe'.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Abertawe, "Mae'r dudalen 'Swansea Waterfront Winterland ' yn ffug, felly byddwn yn annog aelodau o'r cyhoedd i beidio â rhoi sylw iddi o gwbl.
"Nid ydym yn siŵr beth yw'r rheswm dros sefydlu tudalen ffug, felly aethom ati i gysylltu â Facebook a cheisio cyngor cyfreithiol cyn gynted ag y cawsom wybod amdani.
"Dylai unrhyw un sydd am gael gwybodaeth am Wledd y Gaeaf ar y Glannau neu ddigwyddiadau a gweithgareddau eraill y Nadolig yn Abertawe fynd i'n tudalen Facebook 'Nadolig Abertawe' swyddogol, neu'n gwefan Nadolig Abertawe swyddogol."
Mae gwefan a thudalennau Facebook swyddogol y cyngor ar gael yn www.nadoligabertawe.com a www.facebook.com/NadoligAbertawe