Mwy o Newyddion
Mwy o ysgolion yn Abertawe i elwa o derfynau 20mya
Bydd terfynau cyflymder is o 20 mya yn cael eu cyflwyno ar ffyrdd ger 18 o ysgolion yn Abertawe.
Nod y mesurau diogelwch ffyrdd yw darparu amgylchedd mwy diogel i blant sy'n cerdded i'r ysgol ac oddi yno.
Bydd y terfyniad cyflymder yn cael ei ostwng i 20 mya ar gyfer dwsinau o strydoedd ac mae Cyngor Abertawe wrthi'n hysbysebu ei gynlluniau fel bo preswylwyr yn gallu mynegi eu barn arnynt.
Bydd gwaith hefyd yn cael ei gwblhau i gyflwyno llinellau igam-ogam ac arwyddion cadwch yn glir i rwystro ceir rhag parcio'n uniongyrchol y tu allan i rai ysgolion.
Yr ysgolion sy'n cael eu cynnwys yn y mesurau diogelwch ffyrdd diweddaraf yw YGG Pontybrenin, Ysgol Gynradd Waunarlwydd, Ysgol Gynradd Pontlliw, YGG Gellionen ac Ysgol Gynradd Gorseinon.
Mae'r buddsoddiad gwerth £100,000 yn rhan o waith parhaus y cyngor i greu amgylcheddau mwy diogel ger pob ysgol yn y ddinas.
Meddai'r Cyng. David Hopkins, Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Chludiant: "Mae cyflwyno'r terfynau cyflymder 20mya y tu allan i'r holl ysgolion yn Abertawe'n ymrwymiad rydym wedi'i wneud i sicrhau bod yr holl blant sy'n mynd i'r ysgol ac oddi yno mor ddiogel â phosib ar ein ffyrdd.
"Bydd y rhestr ddiweddaraf o ysgolion bellach yn elwa o amgylchedd mwy diogel a gallai achub bywydau."
Mae gwelliannau blaenorol wedi'u rhoi ar waith mewn ysgolion eraill yn Abertawe ar ôl i'r cyngor gyflwyno cais llwyddiannus am gyllid llwybrau mwy diogel mewn cymunedau gan Lywodraeth Cymru.
Ysgolion sydd wedi elwa o'r terfyn cyflymder 20mya eisoes yw Ysgol Gynradd Gendros, Ysgol Gynradd Mayals, Ysgol Gynradd Llangyfelach, Ysgol Gynradd Pengelli ac Ysgol Gynradd Llan-y-tan Mair (Knelston).
Y llynedd bu'r cyngor yn cefnogi Rheol 20mya y Tu Allan i Ysgolion Gan Bwyll, a gynhaliwyd ledled Cymru. Yn Abertawe, defnyddiwyd camerâu cyflymder teithiol ger nifer o ysgolion lleol fel rhan o'r ymgyrch, a chynghorwyd gyrwyr i yrru'n ofalus ger ysgolion lleol.
Meddai Chris Hume, Rheolwr Partneriaeth, GanBwyll: "Byddwn yn parhau i weithio gyda'n partneriaid ar weithgareddau cyfranogiad cymunedol i wneud y strydoedd y tu allan i ysgolion yn fwy diogel. Ein nod yw bob pawb yng Nghymru'n deall effeithiau gyrru'n gynt na'r cyfyngiad cyflymder 20mya ar deuluoedd a ffrindiau."