Mwy o Newyddion
Cyffuriau canser newydd ar gael yng Nghymru trwy fargen newydd
Mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd Vaughan gething wedi cyhoeddi heddiw y bydd bargen newydd â'r cwmni fferyllol Novartis yn rhoi'r cyfle i gleifion yng Nghymru gael cyffuriau canser newydd nad ydyn nhw ar gael fel mater o drefn yma.
Wrth siarad yng nghynhadledd yr hydref Cymdeithas Brydeinig y Diwydiant Fferyllol yng Nghymru, datgelodd y Dirprwy Weinidog Iechyd, Vaughan Gething, fanylion y cytundeb – y cyntaf o'i fath yng Nghymru.
Bydd y fargen yn galluogi cleifion i gael y feddyginiaeth everolimus – sy'n cael ei marchnata o dan yr enwau masnachu Afinitor a Votubia – i drin mathau penodol o ganserau datblygedig ar yr arennau, y pancreas a'r fron, a thiwmorau ar yr ymennydd a'r arennau nad ydynt yn ganser ond sy'n gysylltiedig â sglerosis twberus. Ar hyn o bryd, nid yw'r meddyginiaethau hyn ar gael fel mater o drefn yng Nghymru.
Fel rhan o'r cytundeb, bydd Novartis yn buddsoddi tua £1.3m yng Nghymru i gynnal astudiaeth ar ganser y fron yn y prif ganolfannau oncoleg ac i gasglu data canlyniadau ar gyfer y cleifion sy'n dioddef o ganser y fron metastatig sy'n cael everolimus (Afinitor) ac exemestane (Aromasin).
Yn ogystal â hyn, mae'r cwmni hefyd yn buddsoddi tua £150,000 i gefnogi chwe rhaglen sy'n ailddylunio gwasanaethau, addysg a datblygiad gofal iechyd proffesiynol, gwella'r rhyngweithio â chleifion a chefnogi clinig sglerosis twberus yng Nghaerdydd.
Dywedodd Mr Gething: "Mae rhan helaeth o'r gwariant cyhoeddus yng Nghymru yn mynd ar ofal iechyd ac yn ystod y cyfnod hwn o galedi na welwyd ei debyg o'r blaen, gyda'r heriau sy'n wynebu'r gwasanaeth iechyd a'r galw cynyddol ar ofal iechyd, mae'n hollbwysig ein bod yn mynd i'r afael ag anghenion iechyd pobl yng Nghymru.
"Mae angen i ni hefyd sicrhau bod ganddyn nhw fynediad at dechnolegau arloesol a blaenllaw sy'n briodol, yn effeithiol ac yn fforddiadwy i fodloni eu hanghenion.
"Mae'r fargen unigryw hon yn dangos ein bod yn gweithio i sicrhau bod cleifion yn gallu cael y meddyginiaethau diweddaraf sy'n arloesol a chost-effeithiol.
"Mae Novartis yn awyddus i gasglu data yn y byd real ac mae'r cytundeb dwy flynedd hwn yn adlewyrchu'r cydweithio rhwng y diwydiant a'r gwasanaeth iechyd i gryfhau'r sylfaen dystiolaeth. Bydd hyn o fudd yn y pen draw i gleifion yng Nghymru ac eraill trwy'r Deyrnas Unedig.
"Rwy'n deall, er mwyn i Gymru fod yn lle deniadol i'r diwydiant fferyllol wneud busnes, fod angen i feddyginiaethau cwmnïau gael eu cymeradwyo i'w defnyddio yng Nghymru. I wynebu'r her hon mae'n rhaid i ni feddwl yn fwy creadigol a nodi meysydd lle gallwn ni gydweithio i sicrhau bod meddyginiaethau newydd yn gost-effeithiol i'w defnyddio yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru."