Mwy o Newyddion
Gwahoddiad i enwebu ar gyfer Tlws John a Ceridwen
Ydych chi’n adnabod rhywun yn yr ardal sydd wedi gwneud gwaith gwych gyda phobl ifanc? Mae’r Urdd nawr yn croesawu enwebiadau ar gyfer Tlws John a Ceridwen – tlws o roddir yn ystod Eisteddfod yr Urdd i unigolyn sydd neu wedi gwneud cyfraniad sylweddol i fywyd ieuenctid Cymru.
Mae angen i’w gwaith fod trwy gyfrwng y Gymraeg, neu gyda ieuenctid sy’n dysgu’r iaith. Gall fod yn ymwneud gydag unrhyw agwedd o waith ieuenctid, ond ei fod yn waith wyneb yn wyneb gyda phobl ifanc dros 11 oed a thu allan i oriau ysgol. Gall fod gydag unrhyw fudiad ieuenctid.
Mae Gwobr John a Ceridwen yn cael ei rhoi gan Dewi a Gerallt Hughes er cof am eu rhieni, John a Ceridwen, oedd yn weithgar iawn ym maes ieuenctid. Mae’r wobr yn cael ei chynnig er 23 mlynedd.
Yn ôl Dai Bryer, Cyfarwyddwr Ieuenctid a Chymunedol yr Urdd: “Mae gwaith gwych yn cael ei wneud ym mhob rhan o Gymru gan weithwyr ieuenctid a dyma gyfle iddynt gael cydnabyddiaeth am eu gwaith.
"Boed yn gwneud gwaith diwylliannol, dyngarol, gyda phobl anabl, gwaith awyr agored neu beth bynnag – rydym eisiau clywed am waith arweinwyr eich ardal chi! Y cyfan sydd angen ei wneud yw cwblhau ffurflen gais syml, yn egluro’r gwaith da sy’n cael ei wneud.”
Mae ffurflen gais ar gyfer enwebu ar gael trwy gysylltu gydag Enfys Davies ar 01239 652 163 neu enfys@urdd.org. Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw yr 8fed o Ionawr, 2016.
Llun: Dilwyn Price (canol), enillodd y wobr yn 2015, gyda Dewi a Gerallt Hughes sydd yn rhoi y wobr er cof am eu rhieni