Mwy o Newyddion

RSS Icon
09 Tachwedd 2015

Y Prif Weinidog yn ymateb i sgandal insiwleiddio tai sy'n effeithio ar bobl yn Arfon

Wrth ymateb i gwestiwn gan AS Plaid Cymru dros Arfon, Hywel Williams yn ystod Cwestiynau'r Prif Weinidog , cytunodd y Prif Weinidog David Cameron i edrych i mewn i gam-werthu a gwaith insiwleiddio amhriodol, sydd wedi gadael miloedd o berchnogion tai gyda chartrefi llaith a wedi llwydo, gan gynnwys llawer yng Nghaernarfon a Bangor.

Ers i'r mater gael ei godi yn Nhŷ'r Cyffredin, mae’r Prif Weinidog wedi ysgrifennu at Hywel Williams AS yn cydnabod bod problemau a chadarnhau y bydd adolygiad o safonau gorfodi a chynllunio yn y diwydiant ynni wedi dechrau.

Dywedodd Hywel Williams AS: “Rwy'n croesawu diddordeb y Prif Weinidog yn yr achos yma. Mae miloedd o bobl wedi gosod deunudd inswleiddio waliau ceudod, gan gael eu camarwain fod hwn yn gynllun y llywodraeth. Nawr bod yr inswleiddio yn methu, gan adael glaw i mewn a gan adael pobl gyda cartrefi wedi llwydo â llaith, biliau gwresogi uchel, a chynllun gwarantu sy’n gwbl anaddas wrth i gwmnïau inswleiddio mawr yn mynd i'r wal.

"Cafodd llawer o fy etholwyr osod deunudd inswleiddio waliau ceudod, gan gredu ei fod yn addas ar gyfer eu cartrefi ac ar gyfer y tywydd yn lleol. Roeddent hefyd o dan yr argraff fod hwn yn gynllun gan y llywodraeth.

"Mae'r broses o gael cyfiawnder i gwsmeriaid hyd yn hyn wedi bod yn anfoddhaol gyda phobl bregus yn cael eu gadael mewn cartrefi llaith ac wedi ei difrodi. Mae cyfle i’r llywodraeth gywiro pethau a chymryd camau i amddiffyn cwsmeriaid rhag camymddygiad pellach.

"Yn y pen draw, y llywodraeth sy'n gyfrifol am y llanast. Maent yn gwthio y cwmnïau ynni i gyrraedd targedau ond wedi methu â sefydlu dull rheoleiddio addas.” 

Rhannu |