Mwy o Newyddion

RSS Icon
09 Tachwedd 2015

Cronfa newydd gwerth £39 miliwn yn cynyddu capasiti Cymru ym maes ymchwil gwyddonol

Heddiw, bydd Edwina Hart, Gweinidog yr Economi a Gwyddoniaeth, yn cyhoeddi y bydd dros chwedeg o gymrodoriaethau ymchwil gwyddonol yn cael budd o gronfa newydd gwerth £39 miliwn.  Mae’r gronfa’n cael ei sefydlu er mwyn ehangu capasiti Cymru ym maes ymchwil gwyddonol o safon fyd-eang.  Bydd y Gweinidog yn lansio ail gam Sêr Cymru II ym Mhrifysgol Abertawe.

Lansiwyd cam cyntaf y prosiect ym mis Medi 2015 wedi i £17 miliwn o gyllid a gafodd gan Lywodraeth Cymru ac Ewrop alluogi 90 o gymrodorion ymchwil newydd ledled Ewrop weithio gyda ymchwilwyr rhagorol yng Nghymru.

Mae’r elfen hon o’r rhaglen yn ymwneud ag adeiladu capasiti drwy ddenu a datblygu  cenhedlaeth newydd o ymchwilwyr talentog yng Nghymru.  Gyda chymorth bron i £23 miliwn o gronfeydd Ewropeaidd ac £16 miliwn gan Lywodraeth Cymru a Sector Addysg Uwch Cymru, mae tair elfen i’r prosiect:

* Cymrodoriaethau Sêr Disglair. Hyd at 26 o gymrodoriaethau pum mlynedd ar gyfer ‘y sêr disgleiriaf un’ ym maes ymchwil academaidd.

* Cymrodoriaethau Cymru. Tua 30 o gymrodoriaethau tair blynedd ar gyfer recriwtio ymgeiswyr rhagorol o unrhyw le yn y byd i ddod i weithio yng Nghymru.

* Ailafael mewn Talent Ymchwil. Tua 12 o gymrodoriaethau ar gyfer ymchwilwyr talentog sy’n dychwelyd i waith yn dilyn seibiant gyrfa neu sydd wedi gadael y maes gwyddonol.

Mae Sêr Cymru II yn adeiladu ar lwyddiant rhaglen gwerth £50 miliwn Sêr Cymru a lansiwyd yn 2012.  Llwyddodd Sêr Cymru i ddenu talentau gwyddonol rhyngwladol i fod yn gadeiryddion ym mhrifysgolion Cymru a chreu tair rhwydwaith ymchwil genedlaethol newydd.

Dywedodd Mrs Hart:  “Mae Llywodraeth Cymru’n buddsoddi mewn ymchwil wyddonol er mwyn rhoi hwb i dwf economaidd a chreu swyddi o ansawdd uchel.

"Er bod pawb yn gwybod bod yr ymchwil sy’n cael ei chynnal yng Nghymru ymysg y gorau yn y byd, mae’n rhaid i ni greu mwy fyth o fudd economaidd a chymdeithasol; mae’n rhaid i ni wneud mwy o waith mewn meysydd fel meddyginiaeth glinigol, peirianneg, mathemateg, ffiseg, TGCh a gwyddoniaeth cymdeithasol gymhwysol.

"Nod Sêr Cymru II yw gwneud hynny drwy recriwtio mwy o gymrodoriaethau ymchwil ansawdd uchel i brifysgolion Cymru.”

Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog sy’n gyfrifol am gronfeydd Ewropeaidd:  “Mae rhaglenni sy’n cael eu hariannu gan Ewrop yn chwarae rhan bwysig yn datblygu ymchwil ac arloesedd o’r safon gorau un yma yng Nghymru.

"Mae’n newyddion gwych y bydd £22.6 miliwn arall o gronfeydd Ewropeaidd yn cael ei fuddsoddi ym mhrosiect Sêr Cymru II er mwyn ein helpu i barhau i ddenu’r gwyddonwyr, ymchwilwyr a pheirianwyr gorau i’r wlad a’u cadw yma.” 

Dywedodd yr Athro Julie Williams, Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru:  “Mae’r ymchwil sydd eisoes yn cael ei chynnal yng Nghymru yn gynhyrchiol, yn effeithiol ac o ansawdd uchel ac mae’n ein helpu i ddenu sêr a busnesau ymchwil byd enwog.

"Ond mae’n rhaid i ni ddatblygu mwy o ymchwilwyr er mwyn cyflawni ein gwir botensial, creu buddiannau hirdymor a sicrhau y bydd Cymru’n parhau i fod yn gystadleuol yn yr economi fyd-eang.”

Rhannu |