Mwy o Newyddion
Croesawu gwaith i adleoli arhosfan Ysbyty Gwynedd
Mae AS Plaid Cymru dros Arfon, Hywel Williams, wedi croesawu gwaith i symud arhosfan bws yn Ysbyty Gwynedd yn nes at fynedfa'r ysbyty, ar ôl pryderon am y pellter roedd gan lawer o bobl oedranus i gerdded i ddal y bws.
Cefnogodd Hywel Williams AS ac Aelod Cynulliad Arfon Alun Ffred Jones ymgyrch gan Jean Hughes o Gaernarfon yn galw i'r safle bws i gael ei adleoli yn agosach at y fynedfa ysbyty, yn dilyn galwadau gan bobl leol ei bod yn rhy bell i ffwrdd ac yn rhy ddiarffordd.
Cadarnhaodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fod gwaith ar y safle bws newydd yn dechrau yr wythnos hon a disgwylir iddo gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Ionawr 2016.
Dywedodd Hywel Williams AS, “Pan welsom y cynllun cyntaf flynyddoedd yn ôl i roi arhosfan bws yn y lleoliad presennol, nododd Alun Ffred Jones a minnau bod y safle arfaethedig yn agored, gwyntog ac yn bell oddi wrth y drws ffrynt yr ysbyty. Mae llawer o ddefnyddwyr bysiau yn bobl hŷn ac mae rhai yn anabl. Ac eto roedd disgwyl iddynt gerdded cryn bellter a chroesi ffyrdd prysur i’r ysbyty.
"Rwy'n falch fod y Bwrdd Iechyd wedi cymryd sylw bobl leol ac wedi ystyried barn dros ddwy fil o bobl a lofnododd ddeiseb fel bod cleifion ac ymwelwyr yn elwa o'r gwelliant hwn. Bydd y safle bws newydd yn dileu'r angen i bobl groesi dwy ffordd brysur i fynd yn ôl ac ymlaen o Ysbyty Gwynedd.
"Rwy'n gobeithio y bydd y cynllun newydd yn ei gwneud yn llawer haws i bobl gael mynediad at Ysbyty Gwynedd yn ddiogel.”
Dywedodd Alun Ffred Jones AC: "Mae hyn yn newyddion gwych, yn enwedig ar gyfer y rhai sydd wedi ymgyrchu'n hir ac yn galed i symud y lloches hwn i leoliad sy’n llawer mwy cyfleus yn nes at yr ysbyty. Yr wyf wedi bod yn gohebu â'r bwrdd iechyd am ychydig o flynyddoedd bellach ar ran fy etholwraig Jean Hughes sydd wedi bod ar flaen y gad yn yr ymgyrch.
"Edrychaf ymlaen at weld y cynllun newydd gan obeithio y bydd yn helpu'r rhai sy'n defnyddio'r safle bws i Ysbyty Gwynedd, yn enwedig yr henoed a phobl anabl.”