Mwy o Newyddion
Skates ar ei feic - taith antur gyda chadeirydd newydd y Bwrdd Cynghori ar Dwristiaeth
Mae’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates, wedi cael cyfle i weld y datblygiadau yn One Planet Adventure yn Sir Ddinbych i weld sut mae’r ganolfan wedi datblygu dros y deng mlynedd diwethaf.
Mae One Plant Adventure yn cyfrannu at y £481 miliwn y mae gweithgareddau awyr agored yn ei gyfrannu at economi Cymru. Mae’r ganolfan yn cyflog 14 o aelodau staff amser llawn ac 20 o staff rhan amser ac oherwydd y newid yn ddiweddar ym mherchenogaeth y goedwig maent yn gobeithio cynyddu nifer yr ymwelwyr i 280,000 y flwyddyn.
Fe wnaeth Cadeirydd newydd Bwrdd Cynghori ar Dwristiaeth Llywodraeth Cymru, Margaret Llewellyn OBE, ymuno â’r Dirprwy Weinidog yn ystod ei ymweliad. Margaret Llewellyn fydd yn arwain y bwrdd yn nawr am y tair blynedd nesaf. Mae’r Bwrdd Cynghori ar Dwristiaeth yn rhoi cyngor arbenigol uniongyrchol i Lywodraeth Cymru gan sicrhau bod barn a blaenoriaethau’r diwydiant yn cyfrannu at lywio’r gwaith o ddatblygu polisi.
Dywedodd Margaret Llewellyn: “Ar ôl cyfnod fel Aelod o’r Bwrdd Cynghori ar Dwristiaeth mae’n dda gen i gael y cyfle hwn i arwain y bwrdd a pharhau â’r gwaith gwych sy’n cael ei wneud i roi’r strategaeth twristiaeth ar waith ar gyfer Cymru ac i weld y diwydiant yn cynyddu yng Nghymru 10% erbyn 2020. Mae’r diwydiant twristiaeth yn mynd o nerth i nerth gyda ffigurau ar gyfer 2015 yn dangos twf oddi ar y llynedd – sef blwyddyn a welodd ffigurau uwch nag erioed ar y pryd yng Nghymru. Edrychaf ymlaen at weithio gyda’r diwydiant, y Dirprwy Weinidog a Chroeso Cymru i gynnal y perfformiad gwych hwn.”
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates: “Rydw i wrth fy modd o groesawu Margaret fel cadeirydd y Bwrdd Cynghori ar Dwristiaeth ac edrychaf ymlaen at weithio gyda’r Bwrdd i wneud yn siŵr bod twristiaeth, sef un o’r sectorau rydyn ni’n rhoi blaenoriaeth iddo, yn parhau i dyfu a ffynnu.
"Un o’n mentrau allweddol yw pennu themâu penodol ar gyfer blynyddoedd gwahanol. Holl hanfod y Flwyddyn Antur yw adeiladu ymhellach ar y don o agoriadau a datblygiadau cyrffrous newydd sydd wedi ymddangos a hefyd ar y 10 mlynedd a mwy o fuddsoddi parhaus er mwyn gwneud Cymru yn un o brif gyrchfannau antur y Deyrnas Unedig - ac ysgogi pobl i ddod i ymweld â Chymru nawr.
“Mae Twristiaeth yng Nghymru yn cynnig profiadau ac antur. Nid gwyliau i werthfawrogi’r golygfeydd godidog a’r dirwedd anhygoel yn unig sy’n cael eu cynnig yng Nghymru ond hefyd anturiaethau sy’n rhan o’r dirwedd ac sy’n gwneud Cymru yn lle cyffrous i ymweld ag ef.
“Yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf, cefais y pleser o gymryd rhan mewn nifer o anturiaethau yng Nghymru a gwn, o’m profiad fy hun, mai cryfder Cymru yw’r amrywiaeth anhygoel o anturiaethau sydd gennym i’w cynnig i ymwelwyr o bob oed ac o bob gallu – gweithgareddau fydd yn gwthio’r adrenalin i’r uchelfannau wrth gwrs, ond hefyd amrywiaeth o anturiaethau corfforol, diwylliannol a naturiol a fydd yn addas i bob oed a phob gallu. Mae Cymru’n wych i bawb – a dyna neges arbennig i ni i gyd ei chefnogi.”
Beicio mynydd yw un o brif gryfderau Cymru ac er mwyn denu rhagor o ddiddordeb mewn beicio mynydd ar gyfer 2016 mae Grŵp Marchnata a Datblygu Beicio Mynydd Cymru wedi cael cyllid gan Brosiect Cronfa Arloesi Cynnyrch Twristiaeth Llywodraeth Cymru (TPIF).
Dywedodd Ian Owen, is-gadeirydd Grŵp Marchnata a Datblygu Beicio Mynydd Cymru a Chyfarwyddwr One Planet Adventure: “Rydyn ni’n falch o weld One Planet Adventure yn datblygu’n un o gyrchfannau antur mwyaf y gogledd-ddwyrain. Cymru sydd â’r llwybrau beicio mynydd gorau yn y Deyrnas Unedig a byddwn yn gweithio gyda’n gilydd yn ystod y Flwyddyn Antur i ddenu cynifer o ymwelwyr ag y gallwn i’n canolfannau.”
Yn ystod ei ymweliad aeth y Dirprwy Weinidog i roi cynnig ar y llwybrau ei hun a seiclo o gwmpas y llwybrau i deuluoedd. Mae gan y ganolfan lwybrau sy’n addas i bawb o ddechreuwyr hyd at feicwyr mynydd profiadol. Yn ogystal â hynny mae pedwar llwybr cerdded sy’n amrywio o ran eu hyd a dau lwybr rhedeg 10km. Mae pob llwybr yn dechrau ac yn gorffen yng nghanolfan ymwelwyr One Planet sydd hefyd yn cynnig siop beiciau ac ategolion a dillad, gweithdy trwsio beiciau a mecanic amser llawn, ystafell gyfarfod sydd ar gael i’w llogi a hefyd gaffi sydd wedi ennill gwobrau ac sy’n ymfalchïo yn ei harfer o ddefnyddio cynnyrch lleol.