Mwy o Newyddion
Hawdd torri’n ôl ar yr arian sy’n caei ei wario ar alcoholiaeth
MAE cynlluniau llywodraeth glymblaid San Steffan i dorri budd-daliadau pobl sy’n gaeth i alcohol yn mynd i frifo nifer fawr o deuluoedd yr ochr yma i Glawdd Offa, yn ôl Cyfarwyddwr Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill.
Ond mae Wynford Ellis Owen yn dweud fod y cynlluniau hefyd yn debygol o orfodi pobl eraill sy’n gaeth i “gymryd y risg sydd ei angen” er mwyn dechrau ar hyd ffordd gwellhad.
Ddydd Mercher yr wythnos hon, roedd cannoedd o brotestwyr yn gorymdeithio ar hyd strydoedd Llundain mewn protest yn erbyn bwriad y llywodraeth i newid y drefn o dalu budd-daliadau i bobl anabl. Bydd miloedd o bobl yng Nghymru yn gorfod ail-geisio am eu budd-dâl, a mynd trwy’r broses o gael eu hail-asesu er mwyn gweld a ydyn nhw’n deilwng.
Ymhlith y cynlluniau newydd, sydd wedi eu teilwra er mwyn torri’n ôl 20% ar wariant cyhoeddus y llywodraeth, mae’r bwriad i roi’r gorau i ystyried alcoholiaeth fel “anabledd”. Mae dynion a merched sy’n gaeth i alcohol wedi bod yn gallu hawlio arian i’w cynnal nhw a’u teuluoedd os ydyn nhw’n colli gwaith neu wedi gorfod rhoi’r gorau i weithio oherwydd difrifoldeb eu cyflwr.
“Mae hi’n hawdd torri’n ôl ar arian sy’n cael ei wario ar alcoholiaeth, oherwydd y ffordd y mae ein cymdeithas ni’n meddwl am yr alcoholic,” meddai Wynford Ellis Owen. “Maen nhw’n meddwl mai mater o ddewis ydi gor-yfed, ac felly mai mater o ddewis ydi rhoi’r gorau i yfed. Ond nid dyna sut mae’n gweithio."
I ddarllen mwy CLICIWCH YMA