Mwy o Newyddion

RSS Icon
06 Tachwedd 2015

Jill Evans ASE yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddadlau achos Cymru

Mae ASE Plaid Cymru, Jill Evans, wedi galw heddiw unwaith eto ar Lywodraeth Cymru i fod yn rhagweithiol ac i ymwneud yn uniongyrchol â Chomisiwn Ewrop a chyda gwledydd eraill yr UE er mwyn cymryd buddianau Cymru yn yr UE ymhellach.

Dywedodd mai cyfrifoldeb llywodraeth Cymru oedd hi i sicrhau fod pobl Cymru yn llwyr ymwybodol o ganlyniadau negyddol pleidlais i adael yr UE.

Wrth siarad yn seminar Rhaglen yr UE rhwng Iwerddon a Chymru yn Kilkenny heddiw, pwysleisodd Jill Evans pa mor bwysig oedd aelodaeth o’r UE i Gymru. Does dim modd mesur hwn mewn termau ariannol yn unig, ond hefyd yn gymdeithasol a diwyllianol.

Bydd Rhaglen Cymru/Iwerddon yn buddsoddi bron i 100 miliwn ewro mewn datblygu addysg a sgiliau, gan gefnogi busnesau lleol ac ymchwil a datblygiad, yn ogystal â brwydro newid hinsawdd.

Dywedodd Jill Evans: “Mae projectau dan nawdd Ewropeaidd fel Rhaglen Iwerddon-Cymru yn hanfodol er mwyn helpu i wella a datblygu ein heconomi. Mae wedi helpu i greu cannoedd o swyddi a sefydlu busnesau newydd bychain. Mae hefyd yn hwb i’n prifysgolion.

"Mae’r projectau ar y cyd gydag Iwerddon yn gyffrous iawn ac mae angen i ni annog mwy o fusnesau a sefydliadau i ymwneud â nhw.

"Mae gan Gymru botensial anferth. Rhannwn gymaint gydag Iwerddon, un o’n cymdogion agosaf, a thrwy weithio gyda’n gilydd byddwn i gyd yn elwa. Mae’r un peth yn wir am Gymru yn yr Undeb Ewropeaidd.

"Dylai Llywodraeth Cymru fod yn chwilota am bob ffordd o weithio gydag eraill er mwyn atgyfnerthu ein heconomi ac adeiladu gwell partneriaethau yn Ewrop. Mae hynny’n cynnwys gweithio’n uniongyrchol gyda Chomisiwn Ewrop er mwyn cael gwell bargen i Gymru yn Ewrop, yn hytrach na gadael i lywodraeth Llundain siarad ar ein rhan."

Rhannu |