Mwy o Newyddion
Dros chwarter aelwydydd yng Nghymru mewn tlodi tanwydd
Mae Plaid Cymru wedi gosod allan eu cynlluniau i wrthdroi statws Cymru fel un o genhedloedd tlotaf y DG o ran tanwydd.
Dywedodd Gweinidog Amgylchedd cysgodol Plaid Cymru Llyr Gruffydd ei bod yn warth fod dros chwarter aelwydydd yng nghymru mewn tlodi tanwydd a bod prisiau ynni yng Nghymru hyd at 10% yn uwch nac yn unman arall.
Mae hyn i raddau helaeth oherwydd seilwaith ynni gwael, stoc tai hynafol, a methiant i fynd i’r afael ag arferion drwg yn y farchnad.
Dywedodd Llyr Gruffydd y byddai llywodraeth Plaid Cymru, petai’n cael ei hethol ym mis Mai, yn gostwng biliau ynni’r cartref trwy gyflwyno’r cynllun ôl-ffitio fwyaf a welodd Cymru erioed, ac yn sefydlu cwmni ynni hyd-braich nid-am-elw i leihau prisiau’r farchnad.
Meddai: “Mae teuluoedd Cymru yn wynebu’r biliau ynni uchaf yn y DG tra bod dros chwarter aelwydydd Cymru mewn tlodi tanwydd – sy’n golygu eu bod yn gwario cyfran uchel o’u hincwm ar wresogi eu cartrefi.
“Addawodd y llywodraeth Lafur yng Nghymru ddileu tlodi tanwydd erbyn 2018, ond mae’n cael ei dderbyn yn gyffredinol na fydd y targed hwn yn cael ei gyrraedd, fel llawer o rai eraill.
“Mae Plaid Cymru eisoes wedi cyhoeddi ein cynlluniau uchelgeisiol i helpu teuluoedd i leihau eu biliau ynni. Byddai llywodraeth Plaid Cymru yn cyflwyno’r rhaglen fwyaf o ôl-ffitio cartrefi a welodd Cymru erioed, fel y gall pobl gael gwell cefnogaeth i insiwleiddio eu cartrefi.
“Dan gynlluniau Plaid Cymru, gallwn godi teuluoedd allan o dlodi tanwydd, hybu’r economi a rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobl.”