Mwy o Newyddion
Bryn Terfel ac un o brif denoriaid y byd ar lwyfan gyda’i gilydd yng nghyngerdd gala Llangollen
Mae’r seren opera enwog Bryn Terfel, yn bwriadu dathlu 70fed Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen mewn steil - drwy rannu’r llwyfan gyda chyfaill da iddo sydd hefyd yn denor rhyngwladol o fri.
Bydd y bas-bariton poblogaidd Bryn Terfel CBE, yn serennu yng nghyngerdd nos Iau, 7 Gorffennaf, ac yn ymddangos ar y llwyfan gydag ef fydd y canwr opera o Malta, yr hynod dalentog Joseph Calleja, y mae ei lais wedi cael ei gymharu â’r chwedlonol Caruso.
Bydd tocynnau ar gael o ddydd Llun 2 Tachwedd ymlaen.
Mae’r sioe yn cael ei noddi gan y sefydliad gofal arobryn, Parc Pendine, sydd hefyd yn cefnogi’r digwyddiad agoriadol ar y nos Fawrth pryd y bydd y mezzo soprano Katherine Jenkins yn perfformio addasiad cyngerdd o opera Georges Bizet, Carmen.
Cyhoeddwyd eisoes bod Jools Holland a’i Gerddorfa Rhythm & Blues yn dychwelyd i Langollen y flwyddyn nesaf,gan ddod â’r llen i lawr ar yr ŵyl gyda pharti hwyliog ar ddydd Sul 10 Gorffennaf, mewn cyngerdd a noddir gan y Village Bakery.
Bydd cyngerdd nos Fercher yn ddathliad o theatr gerddorol gyda Kerry Ellis, un o brif berfformwyr theatrau’r West End, a Collabro a enillodd Britain’s Got Talent yn 2014.
Byddant yn ymuno â chriw dawnus Academi Theatr Gerddorol Glasgow, Lleisiau CBC o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru, dan gyfarwyddyd John Quirk.
Bydd y cyngerdd nos Wener, Calon Llangollen, yn arddangos y gorau o’r cystadleuwyr rhyngwladol. Bydd hefyd yn cynnwys cystadleuaeth Pencampwyr Dawns a Charnifal lliwgar y Caribî.
Mae’r cystadlaethau yn dod i ben ar y nos Sadwrn gyda chystadleuaeth enwog Côr y Byd pan fydd corau o bedwar ban yn ymgiprys am Dlws Pavarotti. Wrth i’r beirniaid bendroni a dod i benderfyniad ar y côr buddugol, bydd y gynulleidfa’n cael ei diddanu gan y grŵp lleisiol poblogaidd Cantorion Swingle.
Dywedodd perchennog Parc Pendine Mario Kreft MBE: “Fel Busnes y Flwyddyn Celfyddydau a Busnes Cymru, rydym yn falch iawn o noddi cyngherddau Bryn Terfel a Katherine Jenkins yn yr hyn sy’n argoeli bod yn rhaglen wych o ddigwyddiadau y flwyddyn nesaf.
“Mae’r ŵyl yn un o berlau mwyaf ein coron ddiwylliannol yng Nghymru, ac mae’r neges o hyrwyddo heddwch a chytgord mewn byd cythryblus yn fwy perthnasol nag erioed.”
Yn ôl Bryn, a fu’n perfformio ar lwyfan Llangollen i ddathlu pen-blwydd yr Eisteddfod yn 60 oed yn ogystal â serennu yn Sweeney Todd ddwy flynedd yn ôl, mae bob amser yn edrych ymlaen at ymddangos yn yr hyn y mae’n ei ddisgrifio fel gŵyl unigryw.
Y tro hwn bydd Bryan a Joseph Calleja yng nghwmni cerddorfa Sinfonia Cymru dan arweiniad Gareth Jones.
Dywedodd Bryn: “Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn ddigwyddiad gwych ac rwy’n ddiolchgar o gael cyfle arall i berfformio ar y llwyfan yno unwaith eto – ac mae’r ffaith y bydd Joseph Calleja yn ymuno â mi fel gwireddu breuddwyd.
“Y tro diwethaf i mi ymddangos gyda Joseph oedd mewn cyngerdd yn ei famwlad, sef Malta, felly mae’n wych bod Joseph yn gallu dod i ganu gyda mi yn fy mamwlad innau y tro hwn.”
Ychwanegodd Bryn, sydd newydd ddathlu ei ben-blwydd yn 50 oed gyda chyngerdd arbennig yn Neuadd Royal Albert ochr yn ochr â gwesteion arbennig fel Sting, y cyn-delynorion brenhinol Catrin Finch a Hannah Stone ac Only Men Aloud: “Rwy’n siŵr y bydd y cyngerdd yma’n aros yn hir yn y cof. Yn sicr rwy’n edrych ymlaen yn arw ato ac wrth gwrs rwyf bob amser yn mwynhau perfformio yng ngogledd Cymru.
“Mae Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn ŵyl mor bwysig ac mae’n anrhydedd i mi gael gwahoddiad i berfformio yn y 70fed ŵyl.
“Rwyf wedi ymddangos yn Llangollen bedair neu bum gwaith bellach ac ar bob achlysur mae cynulleidfa Llangollen wedi bod yn un hynod wybodus a gwych. Mae’r staff a’r gwirfoddolwyr ymroddedig, sy’n rhoi cymaint o waith caled i mewn i wneud yr ŵyl yn llwyddiant, yn haeddu clod enfawr.
“Mae’n mynd i fod yn noson arbennig a fedra i ddim aros i weld fy ffrind da, Joseph Calleja, yn mwynhau profiad Llangollen. Rwy’n gwybod y bydd yn syrthio mewn cariad â’r dref, yr ŵyl a’r bobl sy’n gwneud i’r cyfan ddigwydd.”
"Mae'n briodol bod gan fy mod yn dathlu fy mhen-blwydd yn 50 oed eleni fy mod hefyd yn cymryd rhan yn nathliadau’r 70fed Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol. Rwyf bob amser yn mwynhau dychwelyd i Langollen ac rwyf wrth fy modd y bydd Joseph Calleja yn ymuno â mi.
"Mae'n talu ffafr yn ôl mewn ffordd gan fy mod wedi ymddangos yn yr ŵyl ryfeddol y mae Joseph yn ei threfnu bob blwyddyn mewn sgwâr tref ym Malta a fynychir gan tua 15,000 o bobl. Yn wir, mae ganddom gyfeillgarwch ystafell wisgo ar droed gan ein bod yn y ddau wedi trefnu i ymddangos mewn cyngerdd yn Beirut yn fuan ar ôl Llangollen ar ddiwedd mis Gorffennaf."
Dywedodd cyfarwyddwr cerdd yr ŵyl, Eilir Owen Griffiths: “Rydym mor gyffrous o allu cadarnhau bellach y bydd Bryn Terfel a Joesph Calleja yn serennu yng nghyngerdd gala’r 70fed Eisteddfod Ryngwladol. Bydd yn noson wych o gerddoriaeth.”
“Yn ogystal, bydd y mezzo-soprano Eirlys Myfanwy Davies, enillydd cystadleuaeth Llais y dyfodol yn Eisteddfod 2014, yn ymuno â Bryn a Joseph ar y llwyfan ynghyd â Sinfonia Cymru.
“Mae’n briodol gan y bydd y gerddorfa siambr yn dathlu ei phen-blwydd yn 25 oed ar yr un adeg ag y mae’r Eisteddfod yn dathlu llwyfannu’r ŵyl 70 o weithiau. Mae’n mynd i fod yn noson arbennig iawn i bawb.
“Fy mreuddwyd yw gweld Bryn a Joseph yn cloi’r noson gyda deuawd y Pysgotwyr Perlau. Byddai’r gynulleidfa a minnau mewn seithfed nef pe bai hynny’n digwydd.”
I archebu tocynnau ac am fwy o fanylion am ŵyl 2016 ewch i’r wefan yn www.international-eisteddfod.co.uk