Mwy o Newyddion
Cyngor Wrecsam yn rhoi £150k at ffyniant theatr hanesyddol
Mae theatr hanesyddol ym mhentref mwyaf Cymru wedi derbyn cadarnhad cyllidol oedd wir ei angen wrth iddi ddathlu ei phenblwydd yn 90 oed y flwyddyn nesaf.
Pleidleisiodd Cyngor Wrecsam i adnewyddu’r cyllid ar gyfer y Stiwt, theatr hanesyddol a adeiladwyd gan lowyr Rhosllannerchrugog yng nghyfnod anodd 1920au.
Roedd yna bryder y byddai’r Cyngor yn torri’r grant yn gyfangwbwl, grant sydd wedi helpu’r Siwt i ddal dau ben llinyn ynghyd hyd yma ond llwyddodd tim egniol y theatr i berswadio’r Cyngor i roi cytundeb o £150,000 i’r adeilad dros y pedair mlynedd nesaf.
Mae hyn yn golygu 20% o doriad bob blwyddyn ond dywed aelod o’r Bwrdd Sioned Bowen ei bod yn falch fod Cyngor Wrecsam am gefnogi rhaglen gyffrous y theatr.
Dywedodd: “Wrth gwrs roedd yna boeni na fyddai unrhyw gyllid ar gael ond rydym ni a’r Cyngor wedi gweithio yn galed iawn gyda’n gilydd. Mae hwn yn newyddion da i’r Bwrdd ac rydym yn ddiolchgar i’r Cyngor a’r Cynghorwyr lleol am eu hymdrechion ar ein rhan. Gwerthfawrogwn y ffordd yma o weithio mewn partneriaeth.
“Mae gennym raglen gyffrous o hyn i 2016 a bydd y grant yma yn ein galluogi i gael cymorth o lefydd eraill.”
Mae hyn yn cynnwys cyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru sydd eisoes yn dyrannu tua £60k yn flynyddol ac er na lwyddwyd yn y cais am gefnogaeth refiniw yn ddiweddar, gall hyn newid nawr mae’r Cyngor Lleol wedi dangos ei cefnogaeth i’r Theatr.
Pleidleisiodd y Cyngor grant o £59,440 eleni, gyda gweddill i ddilyn fel a ganlyn- £47,553 yn 2016/17, £38,041 in 2017/18 a £30,433 in 2018/19.
Yn y cyfamser, bydd Swyddfa Tai Rhos yn parhau i fod yn y Stiwt am dair mlynedd arall.
Dywedodd y Cynghorydd Sir Paul Pemberton: “Yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, mae’n debyg mae dyma’r gorau y gellid ei obeithio amdano. Dwi jyst yn gobeithio y bydd aelodau Bwrdd y Stiwt yn dal ati efo’r gwaith da y maent yn ei wneud mewn sefyllfa lle mae popeth more anodd iddynt.
“Diolch i bawb am beidio a troi’r tap i ffwrrdd yn gyfangwbwl ar yr ymdrechion.”
Dywedodd y Cynghorydd Kevin Hughes: “Mae Bwrdd y Stiwt yn dal i wneud cynnydd pendant gyda’r Cynllun Busnes yn erbyn y ffaith ei bod yn gweithio mewn amgylchiadau cyllidol anodd iawn.
“Hefyd, mae’r Bwrdd wedi llwyddo i dyfu’r incwm tra’n gostwng costau dros y flwyddyn diwethaf’.
“Mae’n hollol briodol i roi sicrwydd o dair mlynedd ar gyfer y Stiwt a Swyddfa Dai Rhos mewn cyfnod lle mae pob cyllideb yn cael ei scrwtineiddio.
“Ar y llaw arall, petae’r arian yn cael ei dynnu, byddai’n rhaid holi cwestiwn am ddyfodol y Stiwt a’r Swyddfa Dai.”
Yn ddweddar, lawnsiodd y Stiwt gynlluniau uchelgeisiol i godi £50,000 drwy ariannu torfol, er mwyn creu tua 10 swydd ac maent yn ffyddiog am ddyfodol yr adeilad eiconic yn dyddio o 1926 – blwyddyn y Streic Fawr.
Mae’r cynllun ariannu torfol yn gwahodd buddsoddwyr i roi cyfraniad bach neu fawr fel rhan o’r prosiect ac mae Bwrdd y Stiwt yn ffyddiog y bydd y Theatr yn dathlu ei chanfed yn 2026.
Adeiladwyd y theatre yn 1926, diolch i chwys a dagrau gwaed glowyr lleol – gosodwyd ardoll o geinog am bob tunell o lo gan Gyfundrefn Lles y Glowyr yn ystod cyfnod anodd rhwng 1924 gyda’r agoriad yn 1926 – bron £18,000.
Wedi hynny, cynhaliwyd yr adeilad o ddydd i ddydd dan danysgrifiadau arwrol o 2 geiniog yr wythnos o gyflogau prin y glowyr a llwyddwyd i gasglu £20,000 yn ychwanegol.
Mae 2 geiniog yr wythnos yn 1926 yn gyfartal â £3 yr wythnos yn 2015, £156 y flwyddyn, ac mae angen 320 o bobol i ymrwymo am flwyddyn os am gyrraedd y nod o £50k.
Mae’r Bwrdd yn llunio rhaglen newydd uchelgeisiol yngyd â dyfodol sicr adeilad urddasol fu’n flaenllaw ym mywyd cymdeithasol a diwylliannol y pentref ers degawdau.
Dywed Cadeirydd y Bwrdd, Paul Hanmer: “Mae’r cyfnod yma yn bwysig tu hwnt yn hanes y Stiwt gyda rhaglen newydd ar gyfer y misoedd i ddod ac elfennau sy’n torri tir newydd yn ein dyfodol.
“Rydym yn ffyddiog fod yr ysbryd lwyddodd i adeiladu’r lle hwn ac a frwydrodd drwy gymaint o sialensau dwys dal yma ac yn barod i wynebu dyfodol heriol eto er budd ein cymuned a’n pobol”.