Mwy o Newyddion

RSS Icon
06 Tachwedd 2015

Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys sy’n ystyriol o ddementia

Diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru, mae aelodau staff adrannau damweiniau ac achosion brys yng Nghymru yn cael hyfforddiant hanfodol i helpu eu hadrannau i ddod yn ystyriol o ddementia.

Mae aelodau o dimau gofal heb ei drefnu ym mhob ardal bwrdd iechyd yng Nghymru wedi cael hyfforddiant mewn arferion gorau wrth ymdrin â chleifion sydd â dementia. Mae’r hyfforddiant wedi’i achredu gan y Coleg Nyrsio Brenhinol, a bydd staff sy’n ei ddilyn yn meithrin sgiliau i ddarparu gofal a chefnogaeth o ansawdd uchel, sy’n canolbwyntio ar unigolion, i bobl â dementia.   

Er mwyn sicrhau bod y gofal y bydd pobl â dementia yn ei gael wrth gael eu derbyn yn ddirybudd i’r ysbyty yn gwella, mae’r hyfforddiant yn sicrhau bod staff adrannau brys:

* Yn deall dementia, a’r effaith y  mae’n gallu ei chael ar unigolion, yn well

* Yn gallu myfyrio ar arferion presennol a gwneud newidiadau yn ôl yr angen

* Yn cydnabod rôl gofalwyr a theuluoedd ac yn gwybod sut i ymgysylltu â nhw.

Mae o leiaf un nyrs o bob adran damweiniau ac achosion brys yng Nghymru wedi cael ei hyfforddi fel hwylusydd, gan eu galluogi i roi hyfforddiant ar y rhaglen i’w cydweithwyr.

Dywedodd Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: “Ym mis Ebrill, amlinellais sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwneud Cymru yn genedl sy’n ystyriol o ddementia.

"Un o’n nodau yw sicrhau bod gan staff y GIG sy’n dod i gysylltiad ag aelodau o’r cyhoedd y sgiliau cywir i ddarparu’r math cywir o ofal a chefnogaeth i bobl â dementia pan fyddant yn dod i’r ysbyty.

“Mae llawer o bobl â dementia yn dweud wrthym fod ymweld â lleoliad gofal iechyd yn gallu bod yn brofiad sy’n achosi cryn ofid ond mae cynlluniau fel hyn yn dod â ni gam yn nes at fod yn genedl sy’n ystyriol o ddementia.

“Dw i wedi gosod targedau newydd heriol i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol – gyda chymorth cyllid ychwanegol i’w bodloni – a fydd yn ei gwneud hi’n haws i bobl â dementia gael diagnosis prydlon a gofal a chefnogaeth briodol wedi hynny.”

Rhannu |