Mwy o Newyddion

RSS Icon
05 Tachwedd 2015

Cyhoeddi cast sioe gerdd Tom Jones

Bydd Kit Orton yn chwarae rôl ‘Tom Jones’ yn nhaith y DU Theatr na nÓg o gynhyrchiad TNN Tom. A Story of Tom Jones. The Musical. Bydd y sioe’n agor nos Lun 7 Mawrth 2016 yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.

Yn ymuno ag ef fydd: Elin Phillips fel ‘Linda’; Nicola Reynolds fel ‘Vi’; Phylip Harries fel ‘Jack Lister’; Richard Corgan fel ‘Gordon Mills’, Deborah Thomas fel ‘Jo Mills’; John McClarnon fel ‘Vernon Hopkins’; Daniel Lloyd fel ‘Mickey Gee’; Kieran Bailer fel ‘Chris Slade’; Tom Connor fel ‘Dave Cooper’ a Nicola Bryan fel ‘Freda’ a ‘Val’. Hefyd yn ymuno â’r cwmni yw Tim Bonser fydd yn perfformio rôl 'Tom Jones’ mewn perfformiadau arbennig.

Mae credydau theatr blaenorol Kit Orton yn cynnwys ‘Bill Sikes’ yn “Oliver!” yn y Watermill Theatre; “Dickens Abridged” yn yr Arts Theatre a ‘Sir Lancelot’ yn “Spamalot” yn y Harold Pinter Theatre ac ar daith. 

Dywedodd Geinor Styles, cyfarwyddwr atristig Theatr na nÓg: “Rydyn ni’n falch iawn o groesawu Kit Orton yn ôl a’r cwmni arbennig yma o actorion/cerddorion dawnus ochr yn ochr ag wynebau newydd John McLarnon, Deborah Thomas, Richard Corgan, Nicola Bryan a Tim Bonser i gymryd y stori ysbrydoledig yma o eicon Cymreig go iawn i gynulleidfaoedd ledled y DU. Bydd y sioe gerdd roc a rôl yma sydd wedi’i felysu gan hiwmor a swyn Cymreig yn bendant o gael cynulleidfaoedd ar eu traed er mwyn dathlu stori’r chwedl byw yma.”

Dywedodd Graeme Farrow, Cyfarwyddwr Creadigol Canolfan Mileniwm Cymru: “Rhan fawr o uchelgais Canolfan Mileniwm Cymru yw croesawu rhagor o waith gan gwmnïau wedi’u seilio yng Nghymru i’n llwyfan Donald Gordon, rwy’n hynod o falch ein bod ni’n dechrau taith y DU o Tom. A Story of Tom Jones. The Musical gan Theatr na nÓg fis Mawrth nesaf."

Dewch ar siwrnai yn ôl i’r gorffennol, i neuaddau dawns, clybiau llafur a stiwdios recordio’r ’60au. Dyma fan geni’r chwedl o’r enw Tom Jones: bachgen o’r Cymoedd gyda llais arbennig a freuddwydiodd am gyrraedd y brig, beth bynnag fo’r pris.

Mae’r stori ysbrydoledig yma o hunan-gred a chymeriad penderfynol yn cael ei pherfformio’n fyw ar lwyfan gan gast gwych o actorion a cherddorion, i ddathlu dyn cyffredin â thalent nodweddiadol ddaeth yn arweinydd ar lwyfan y byd.

Gyda chaneuon o’r cyfnod fel Ghost Riders in the Sky, Spanish Harlem a Lucille, byddwn yn dilyn Tom wrth iddo ddringo’r uchelfannau, gan orffen â rhai o’r caneuon a’i wnaeth yn un o sêr mwyaf eiconig a charismatig y cyfnod: It’s Not Unusual, Delilah, Green, Green Grass of Home, What’s New Pussycat? a mwy.

Ysgrifennwyd Tom. A Story of Tom Jones. The Musical gan Mike James. Cyfarwyddwyd gan Geinor Styles, gyda Threfniannau Cerddorol gan Ben Goddard, Dylunio Set gan Sean Crowley a Dylunio Sain gan Mike Beer.

Mae’r cynhyrchiad yma wedi’i ddatblygu gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cymru, RCT, NPT Theatres a Chanolfan Mileniwm Cymru.

Rhannu |