Mwy o Newyddion
Pryderon mam ifanc am ddyfodol gwasanaeth mamolaeth Ysbyty Gwynedd
Mae teulu ifanc o'r Felinheli wedi siarad yn gyhoeddus am eu pryderon ynglŷn â’r posibilrwydd o is-raddio uned mamolaeth Ysbyty Gwynedd Bangor, o flaen adolygiad i'r ddarpariaeth gwasanaethau merched yng Ngogledd Cymru.
Rhoddodd Ceri Rhiannon Roberts enedigaeth i’w mab, Seth Elis naw wythnos yn fuan ym mis Medi 2015. Ar un adeg, roedd chwe arbenigwr yn goruchwylio gofal Seth yn yr uned famolaeth yn Ysbyty Gwynedd. Mae pryderon Ceri Rhiannon wedi cael eu hadleisio gan gyn ymgynghorydd mewn Obstetreg a Gynaecoleg yn Ysbyty Gwynedd, Mr Peter Tivy-Jones a'u Cynghorydd lleol, Siân Gwenllian, sy'n arwain ymgyrch i wrthwynebu unrhyw israddio gwasanaethau mamolaeth yn yr ysbyty.
Dywedodd Ceri Rhiannon: “Roeddwn wedi gweld ymgynghorydd ar y cychwyn, fel pob mam newydd, ac roedd wedi fy rhoi yn y categori ‘risg isel.’ Roedd bob dim yn iawn ac roedd y gofal yn cael ei arwain gan fyd-wraig. Roedd pob sgan yn dangos fod popeth yn iawn.
"Yna ar Fedi 5, dechreuais gael poenau. Es i fewn i uned archwilio Ysbyty Gwynedd ond doedd dim byd i awgrymu fy mod mewn llafur ac fe gefais fy anfon adref.
"Oriau wedyn, roeddwn mewn poen enbyd ag mi es i Ysbyty Gwynedd ag awr a hanner wedyn roedd Seth yn cael ei eni, 9 wythnos o flaen ei amser, yn pwyso 3 pwys 9 owns.
"Fe gafodd ei gipio ffwrdd yn syth bron a weles i mohono am awr a hanner ar ôl hynny a’r tro nesa i mi ei weld, roedd yn llawn tiwbiau ac yn edrych mor fach.
"Ar un adeg roedd 6 arbenigwr yn gofalu amdano. Fe fu’r gofal yn anhygoel gan bawb o’r staff. Fe fu Seth yn yr ysbyty am 6 wythnos a minnau a’i dad yn cael aros yn Tŷ Enfys, elusen sy’n darparu llety i rieni pan fo’u plant yn Ysybty Gwynedd. Bellach da ni’n dau adra ers pythefnos ac mae Seth bron yn 2 fis oed a bron yn 7 pwys.
"Rydym yn cyfrif eu hunain yn lwcus iawn. I ddechrau y ffaith ein bod yn byw mor agos at yr Uned Famolaeth: rhyw 5 munud i ffwrdd o’r Ysbyty ydan ni. Cael a chael fyddai cyrraedd Ysbyty Gwynedd petawn yn digwydd byw yn Aberdaron neu Abermaw. Ond dwi ddim yn siŵr a fydde ni hyd yn oed wedi cyrraedd Ysbyty Glan Clwyd, 34 milltir ym mhellach lawr y ffordd mewn pryd.
"Mae peryg y byddai Seth wedi ei eni ar y ffordd yn rhywle, yn y twnnel efallai, heb yr un doctor ar gael i helpu. Mae’n hunllef meddwl be fyddai pendraw hynny wedi gallu bod. Rwy’n poeni yn arw petawn yn cael ail fabi gan wybod efallai na fydd gofal doctoriaid ar gael yn Ysybty Gwynedd i’r dyfodol.
"Mae’n hollol annerbyniol meddwl am dynnu gwasanaeth doctoriaid o Ysbyty Gwynedd. Mae safonau’r Uned o’r radd flaena’ ac mae angen ei gynnal fel gwasanaeth llawn ar gyfer holl ferched yr ardal.
"Dw i’n teimlo dros ferched eraill sy’n byw mewn llefydd llawer mwy gwledig na mi, sydd heb gar efallai. Mae’r pryder mae’r pellter yn achosi yn rhoi pwysau ychwanegol ar ferched sy’n gallu teimlo’n fregus ar y gorau. Ag i mi, roedd awyrgylch Gymraeg yr Uned ym Mangor yn holl-bwysig. Roedd y mwyafrif o'r staff yn siarad Cymraeg ag fe weles i bedwar doctor Cymraeg eu hiaith. A fydde’r un gwasanaeth ar gael wrth symud tua’r dwyrain? Rwy’n amheus.”
Dywedodd y Cynghorydd Siân Gwenllian: “Yr wyf yn pryderu bod hyn yn golygu un peth, ac un peth yn unig: colli gwasanaeth dan arweiniad meddygon ymgynghorol yn Ysbyty Gwynedd gyda channoedd o ferched beichiog risg uchel yn gorfod teithio 34 milltir pellach i Glan Clwyd i eni eu babanod.
"Pam ydw i'n credu y bydd Ysbyty Gwynedd yn dioddef? Oherwydd bod y Prif Weinidog a'r Bwrdd Iechyd wedi dweud dro ar ôl tro eu bod wedi ymrwymo i ddatblygu canolfan gofal dwys newyddenedigol isranbarthol yn Ysbyty Glan Clwyd.
"Mae gennym uned famolaeth o'r radd flaenaf yn Ysbyty Gwynedd, mae'n rhaid ei diogelu. Gallai symud i uned o dan arweiniad bydwragedd olygu bod 20% neu fwy o ferched yn teithio awr neu fwy ar hyd yr A55 (nid y ffordd mwyaf dibynadwy) i eni eu babanod, rhai tra yn y camau olaf o lafur. Nid yw hyn yn dderbyniol.”
Dywedodd Peter Tivy-Jones, cyn-Ymgynghorydd Obstetreg yn Ysbyty Gwynedd: “O safbwynt meddygol, yn ddelfrydol dylid cynnal gwasanaethau Obstetreg a Gynaecoleg ym mhob un o'r tri ysbyty. Os nad yw hyn yn bosibl dylid selio penderfyniad pa adran ddylai gael ei israddio ar gyflymder mynediad i wasanaethau ar gyfer y rhan fwyaf o gleifion.
"Byddai cau’r uned yn Ysbyty Gwynedd yn golygu y byddai'n rhaid i lawer mwy o gleifion deithio am fwy nag awr, os yw un o'r ddwy uned arall yn cael eu hisraddio.
"Ar ben hynny dylai’r penderfyniad o lle i osod y SuNRICC gael ei wneud ar y cyd â phenderfyniad lleoliad gwasanaeth Obstetreg a Gynaecoleg. Nid yw'n iawn i leoli'r SuRNICC gyntaf.”
Cynhelir cyfarfod cyhoeddus ar Nos Iau, Tachwedd 12ed am 7.00yh yng Nghlwb Rygbi Bangor i drafod y bygythiad i uned mamolaeth Ysbyty Gwynedd.
Llun: Ceri Rhiannon Roberts ei phartner Elis Roberts a’u mab Seth Elis gyda Siân Gwenllian.