Mwy o Newyddion

RSS Icon
04 Tachwedd 2015

Datgelu mesurau pellach i gefnogi Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Heddiw, dywedodd Vaughan Gething, y Dirprwy Weinidog Iechyd, fod rhagor o gefnogaeth yn mynd i gael ei rhoi i helpu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ddatblygu ar y cynnydd a gafodd ei wneud yn ystod y pedwar mis cyntaf o dan fesurau arbennig.

Yn dilyn cyfarfod rhwng uwch-swyddogion Llywodraeth Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar 22 Hydref, dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd y bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn parhau o dan fesurau arbennig am ddwy flynedd, a bydd y cynnydd a’r cerrig milltir yn cael eu hadolygu bob chwe mis.

Cafodd manylion y gefnogaeth ychwanegol ar gyfer y Bwrdd o dan y protocol mesurau arbennig eu datgelu gan y Dirprwy Weinidog heddiw. Cytunwyd ar y gefnogaeth yn dilyn trafodaethau â Simon Dean, Prif Weithredwr Dros Dro Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac Ann Lloyd, Dr. Chris Jones a Peter Meredith-Smith, tri chynghorydd annibynnol.

Mae’r gefnogaeth yn cael ei rhoi ar waith i sicrhau bod y Bwrdd Iechyd yn cael sylfaen gynaliadwy ar gyfer y tymor hir ac mae’n cynnwys:

* Proses ar gyfer penodi Prif Weithredwr parhaol, sydd ar y gweill erbyn hyn. Bydd Mr. Dean yn dal i chwarae rôl allweddol i gefnogi’r Bwrdd wrth iddo fynd drwy gyfnod o weddnewid hyd nes y bydd Prif Weithredwr newydd wedi’i benodi. Bydd ef yn dychwelyd i’w rôl fel Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru yn Llywodraeth Cymru maes o law

* Tîm gwella ar gyfer y Bwrdd Iechyd, sy’n cael ei sefydlu yn awr. Nod y tîm fydd sicrhau bod gan y Prif Weithredwr y gallu i wneud y gwelliannau angenrheidiol yn y meysydd y’u nodwyd o dan y mesurau arbennig. Bydd y tîm yn adrodd i’r Prif Weithredwr ac yn gweithio ochr yn ochr ag aelodau annibynnol o’r Bwrdd yn y meysydd allweddol, sef llywodraethu, cynllunio strategol, gwasanaethau iechyd meddwl, gwasanaethau gofal sylfaenol ac ailgysylltu â’r cyhoedd. Bydd y tîm gwella yn gweithio gyda’r Bwrdd Iechyd a Llywodraeth Cymru i gytuno ar gynllun ar gyfer gwella, a fydd yn amlinellu’r prif gerrig milltir i’w cyflawni adeg yr adolygiadau bob chwe mis.

* Jenny French, nyrs iechyd meddwl brofiadol sydd wedi arwain adran, o Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, sy’n ymuno â’r tîm gwella fel uwch-nyrs iechyd meddwl ac anableddau dysgu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr;

* Helen Bennett, nyrs iechyd meddwl sydd wedi ennill gwobrau, a fydd yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i helpu i ddatblygu fframwaith llywodraethu iechyd meddwl newydd;

* Ann Lloyd, Peter Meredith-Smith a Dr. Chris Jones a fydd yn parhau i weithio gyda’r Bwrdd Iechyd ac adolygu ei gynnydd.

Dywedodd Mr Gething: “Wrth ystyried y camau nesaf ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – y sefydliad GIG cyntaf yng Nghymru i gael ei roi o dan fesurau arbennig – rydyn ni wedi tynnu ar brofiadau GIG Lloegr, lle mae sawl ymddiriedolaeth y GIG o dan fesurau arbennig ar hyn o bryd.

“Mae profiad Lloegr yn dangos pa mor bwysig yw rhoi’r gefnogaeth gywir ar yr amser cywir. Mae’n amlwg hefyd fod angen amser ar sefydliadau i union sefyllfa’n llwyddiannus, mewn ffordd sy’n gynaliadwy.

“Bydd sefydlu tîm gwella ar gyfer y Bwrdd Iechyd i ddarparu mwy o gapasiti, a phenodi Prif Weithredwr newydd, parhaol, yn helpu’r Bwrdd i lwyddo i unioni’r sefyllfa, mewn ffordd gynaliadwy. Bydd cefnogaeth, ymroddiad ac egni parhaus staff y Bwrdd Iechyd a’r cyhoedd yn y Gogledd yn hanfodol ar gyfer mynd i’r afael â’r heriau a gwireddu canlyniadau cynaliadwy.

“Dros y ddwy flynedd nesaf, dw i’n disgwyl gweld Bwrdd Iechyd sydd ag arweiniad cryf a threfniadau llywodraethu cadarn. Dw i am weld Bwrdd a fydd yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl diogel, o ansawdd uchel; yn cynnig gwasanaethau gofal sylfaenol y tu allan i oriau diogel a chynaliadwy; a chanddo gynllun clir ar gyfer datblygu gwasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol yn y Gogledd.

“Dw i hefyd am weld Bwrdd Iechyd sydd wedi dangos bod ganddo allu i ddelio â materion gwasanaeth anodd a heriol mewn partneriaeth â’i staff a’r cyhoedd; Bwrdd Iechyd a fydd â strategaeth glinigol glir ar gyfer datblygu gwasanaethau ledled y Gogledd ar gyfer y tymor hir.” 

Llun: Vaughan Gething

Rhannu |