Mwy o Newyddion

RSS Icon
04 Tachwedd 2015

Optio allan o roi organau – llai na mis i fynd

AR y 1af o Ragfyr, Cymru fydd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gyflwyno system optio allan meddal ar gyfer rhoi organau. Bydd y gyfraith newydd yn ei gwneud hi’n haws i bobl benderfynu a ydynt eisiau bod yn rhoddwyr organau ai peidio.

O dan y system newydd, os nad yw pobl wedi cofrestru penderfyniad i roi organau (optio i mewn) neu benderfyniad i beidio â rhoi organau (optio allan), ystyrir nad ydynt yn gwrthwynebu rhoi eu horganau – yr enw ar hyn yw cydsyniad tybiedig. 

Un person sy’n dathlu diwedd gêm aros personol yn Kayleigh Old, 29, o Gaerdydd, a derbyniodd  trawsblaniad ysgyfaint a achubodd ei bywyd ym mis Mehefin.

I Kayleigh, mae delio â ffibrosis systig wedi bod yn ffordd o fyw am gyhyd ag y gall hi gofio.

Mae trawsblaniad ysgyfaint wedi cynnig y cyfle i Kayleigh byw bywyd hirach – ond mae hi yn un o’r rhai lwcus oherwydd bydd 1 o bob 3 o unigolion sydd â ffibrosis cystig ar y rhestr trawsblaniadau ysgyfaint yn marw wrth aros.

Cafodd Kayleigh, sy’n gweithio ar hyn o bryd ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Ffibrosis Cystig yng Nghymru, ei diagnosis pan oedd ond dau fis oed.

Mae hi wedi derbyn triniaeth barhaus ar gyfer yr anhwylder genetig byth ers hynny, sy’n effeithio yn bennaf ar yr ysgyfaint, ond hefyd y pancreas, afu a’r coluddyn.

Mae Kayleigh yn teimlo ei bod wedi cael plentyndod cymharol normal, ac mae wedi llwyddo i weithio ei ffordd drwy’r system addysg, gan gyflawni gradd 2:2 mewn ffisiotherapi ym Mhrifysgol Bryste.

Ar ôl graddio o brifysgol, dechreuodd cyflwr Kayleigh dirywio ac yn y pen draw’r unig ddewis oedd ei rhoi ar y rhestr drawsblaniadau organau. Ar ôl treulio wyth mis yn aros am yr alwad ffôn, derbyniodd Kayleigh y trawsblaniad oedd ei angen arni i newid ei bywyd.

Meddai: “Ar y 3ydd Mehefin am 05:00 cefais fy pedwerydd alwad am drawsblaniad. Galwad yr oeddwn wedi colli gobaith o dderbyn.

“Roeddwn yn glaf mewnol yn fy nghanolfan ffibrosis systig ar y pryd, ac yn teimlo’n eithaf sâl. 

“Gwrandewais ar y cydlynydd yn dweud wrthyf eu bod wedi cael newyddion da – roedd pâr o ysgyfaint wedi dod ar gael i mi.

“Roeddwn ond yn gobeithio nad larwm ffug arall oedd hwn oherwydd roedd mor galed casglu fy hun i fyny ac ymlwybro ar ôl cael cipolwg ar fywyd newydd dair waith o’r blaen.

“Ond roedd yr alwad hon yn teimlo’n wahanol ac roedd gen i deimlad y byddai’n mynd yn ei flaen. Ac fe wnaeth.

“Treuliais gyfanswm o bump a hanner wythnos yn yr ysbyty ar ôl fy llawdriniaeth, gyda’r rhan fwyaf o hynny mewn gofal critigol wrth i mi ddioddef gydag amryw o gymhlethdodau.

“Ond yr wyf wedi ymladd drwy’r gwaethaf ac yr wyf nawr yn gwella’n dda.

“Mae dal gen i ffordd bell i fynd, ond efallai ei fod yn ddigon y gallaf ddweud fod gen i ffordd bell i fynd.

“Yn y dyddiau tywyllaf cyn fy nhrawsblaniad, roedd rhaid i mi ymladd i gadw credu bod hyn yn bosibl.

“Gwn y bydd gormod o fywydau ifanc yn cael eu torri’n fyr cyn y gallant gael bywyd newydd fel yr wyf wedi derbyn.

“Rwyf bellach ddim yn ddibynnol ar ocsigen fel yr oeddwn ar gyfer 18 mis cyn y trawsblaniad na chwaith oriau o driniaeth gan gynnwys ffisiotherapi.

“Rwy’n gallu cerdded yn annibynnol, cawodi’n annibynnol ac yn gallu gwneud cynlluniau digymell gyda ffrindiau a theulu – y rhan fwyaf o’r amser; rhywbeth a oedd yn amhosibl o’r blaen.

“Rwy’n credu bod y newid yn y gyfraith ar roi organau yn rhoi mwy o ddewis i unigolion fel y gallwch ddewis i optio i mewn, allan neu wneud dim byd gyda chaniatâd tybiedig.

“Bydd yn grymuso pobl i benderfynu beth y maent eisiau i ddigwydd ar ôl iddynt farw, gan gymryd y pwysau oddi ar eu hanwyliaid ar adeg mor ofnadwy.

“Dyma’r anrheg fwyaf caredig a mwyaf y gallwch ei roi unwaith y byddwch wedi mynd.

“Rwy’n teimlo’n falch iawn bod Cymru’n arwain y ffordd ar gyfraith mor bwysig a gobeithio y bydd y gweddill y DU’r un peth yn y dyfodol agos.”

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Mark Drakeford: “Gydag ond mis i fynd nes bod y newidiadau yn y gyfraith rhoi organau, mae’n bwysig iawn bod pawb yn ymwybodol o’r newidiadau yn y gyfraith a beth fydd eu dewisiadau rhoi organau.

“Mae rhoi organau yn achub bywydau ac mae Kayleigh yn un enghraifft o hyn.

“Rwy’n gobeithio y bydd y ddeddf newydd hon yn helpu i achub llawer mwy o fywydau.

“Mae’r ymgyrch Amser i Ddewis yn annog pobl i gael sgwrs am roi organau gyda’u teulu a’u hanwyliaid ac rwy’n gobeithio y bydd pobl yn parhau siarad am eu penderfyniadau rhoi organau.”

O’r 1af o Ragfyr, dyma fydd eich dewisiadau:

Os ydych chi eisiau rhoi organau, gallwch chi:

* Gofrestru penderfyniad i roi organau (optio i mewn) neu

* Ddewis gwneud dim a rhoi cydsyniad tybiedig. Trwy wneud dim, ystyrir nad oes gennych unrhyw wrthwynebiad i roi organau.

Os nad ydych chi eisiau rhoi organau, gallwch chi:

* Gofrestru penderfyniad i beidio â rhoi organau (optio allan) o haf 2015 ymlaen.

Os byddwch chi’n cofrestru penderfyniad i roi organau, byddwch yn gallu dewis rhoi pob organ a meinwe neu ddewis organau a meinweoedd penodol yr hoffech eu rhoi.

Mae llawer o deuluoedd yn gwrthod rhoi organau os nad ydynt yn gwybod beth oedd dymuniad eu hanwylyn. Beth bynnag yw’ch penderfyniad o ran rhoi organau, neilltuwch amser i siarad â’ch anwyliaid. 

I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.rhoiorganaucymru.org neu ffoniwch ni ar 0300 123 23 23.

Rhannu |