Mwy o Newyddion

RSS Icon
04 Tachwedd 2015

Dechrau dymchwel Oceana yn hwyr ym mis Tachwedd

Bydd adeilad hen glwb nos Abertawe, Oceana, yn dechrau cael ei ddymchwel tua diwedd mis Tachwedd.

Mae Cyngor Abertawe bellach wedi penodi'r arbenigwyr dymchwel, Cuddy Group, i arwain y prosiect a disgwylir ei orffen erbyn diwedd mis Mai y flwyddyn nesaf.

Cwblhaodd y cyngor y broses o brynu'r safle 0.55 erw ym mis Medi fel cam cyntaf cynllun â'r nod o drawsnewid Ffordd y Brenin yn ardal fusnes. Mae'r adeilad, a adeiladwyd yn wreiddiol gan Rank Organisation ym 1967 ar gyfer sinema, wedi bod yn gartref i nifer o fariau a chlybiau nos dros y blynyddoedd, gan gynnwys Ritzy and Icon, Time and Envy, a'r diweddaraf, Oceana.

Gwaith y tu mewn i'r adeilad yn unig fydd yn cael ei wneud cyn y Nadolig, felly ni fydd unrhyw effaith ar fasnach Nadoligaidd yn yr ardal. Byddant yn cael gwared ar holl gyfleusterau a gosodiadau'r adeilad er mwyn eu hailgylchu neu eu hailddefnyddio, lle bynnag y bo modd.

Ariennir y gwaith dymchwel gan raglen adfywio Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid Canol Dinas Abertawe Llywodraeth Cymru a gymeradwywyd ym mis Mehefin, 2014.

Mae Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid yn rhaglen tair blynedd (2014-2017) sydd wedi rhoi £8.53 miliwn i Gyngor Abertawe er mwyn targedu prosiectau adfywio allweddol yng nghanol y ddinas.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Mae hwn yn gam gweithredu uniongyrchol gan y cyngor sy'n cadarnhau ein hymrwymiad i adfywio canol dinas Abertawe er lles busnesau, preswylwyr ac ymwelwyr.

"Rydym yn gwybod nad oes gan Abertawe ddigon o bobl yn gweithio yng nghanol y ddinas i helpu ein masnachwyr presennol i ffynnu a denu buddsoddiad newydd, felly rhan o'n datrysiad arfaethedig yw trawsnewid Ffordd y Brenin yn ardal fusnes ar gyfer miloedd o weithwyr.

"Rydym yn dechrau'n cynlluniau drwy ddymchwel hen adeilad treuliedig clwb nos Oceana ac, yn amodol ar arian, adeiladu swyddfeydd newydd yn ei le sy'n addas at y diben. Mae hefyd yn glir bod angen i ni fynd i'r afael â golwg ac ymdeimlad Ffordd y Brenin os ydym am ddenu cyflogwyr yno yn y dyfodol. Felly un syniad rydym yn ei archwilio yw datblygu maes gwyrdd, sy'n addas i gerddwyr ar hyd ymyl y ffordd a fydd yn creu'r amgylchedd cywir. Nid yw'r prosiect hwn yn canolbwyntio ar adeiladau newydd yn unig - rydym hefyd am greu lle ar gyfer busnesau a swyddi newydd a fydd o fudd i bobl ym mhob rhan o'r ddinas."

Meddai Dave Cobern, Cyfarwyddwr Dymchwel Cuddy Group,  "Mae'n anrhydedd i ni dderbyn y contract hwn i fod yn rhan o brosiect mor bwysig ar gyfer adfywio canol y ddinas. Bydd y gwaith dymchwel yn nodi dechrau'r prosiect ailddatblygu ar Ffordd y Brenin ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda Chyngor Abertawe." 

Mae'r cyngor yn trefnu cyfarfod gyda busnesau lleol ddechrau mis Tachwedd i drafod y rhaglen waith. Disgwylir y bydd hysbysfyrddau'n dechrau cael eu gosod o amgylch adeilad Oceana o ganol y mis.

Rhannu |