Mwy o Newyddion
Gwella ffordd
MAE Ieuan Wyn Jones, y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, wedi cyhoeddi y bydd y gwelliannau ar yr A487 yng Nglandyfi yn dechrau’n fuan.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi rhoi’r contract gwerth £10 miliwn i wella’r A487 yng Nglandyfi, Ceredigion, rhwng Aberystwyth a Machynlleth, i Carillion Construction Ltd.
Mae’r cynllun yn golygu gwella a lledaenu tua 1.3 cilomedr o gefnffordd yr A487 trwy gymuned Glandyfi.
Mae troeon cas ar y rhan hon o’r ffordd, sy’n golygu na all gyrwyr weld yn bell o’u blaenau, ac mae’n hynod gul, sy’n rhwystro llif traffig ddwyffordd.
Meddai’r Dirprwy Brif Weinidog: “Bu llawer o ddiddordeb yn y gwelliannau hyn, ac rwy’n falch iawn o gyhoeddi’r cynllun hwn, y mae angen mawr amdano, i wella amodau ar y ffordd rhwng Aberystwyth a Machynlleth.
“Prif nod y gwelliant hwn yw caniatáu i gerbydau basio’n hwylus, a lleihau’r oedi ar y rhan hon o’r ffordd.
“Mae’r gyfradd ddamweiniau, oherwydd culni’r rhan hon o’r ffordd, yn uwch na’r gyfradd genedlaethol ar gyfer ffordd o’r categori hwn, felly mae angen y gwelliannau i wella diogelwch.”
Mae’r gwaith yn golygu gwella tua 1.3 cilomedr o’r gefnffordd i’r safonau cyfredol, gan gynnwys darparu cyfleusterau i gerddwyr/seiclwyr trwy ledu ac ailalinio’r lôn gerbydau bresennol; y cyfan yn ardal Afon Dyfi, ardal amgylcheddol sensitif, gerllaw prif reilffordd Arfordir y Cambrian a Chastell Glandyfi.
Bydd angen torri’r creigiau hyd at 14 metr o ddyfnder mewn dau fan, ac adeiladu nifer o waliau cynnal, a phob un ohonynt â gorchudd cerrig.
Gan bod y gwaith ar-linell, bydd traffig presennol y gefnffordd yn cael ei ganiatáu drwy’r safle adeiladu, a bydd cyn lleied o oedi â phosib.
Mae’r rhan hon o gefnffordd yr A487 o Abergwaun i Fangor yn gyswllt priffordd hanfodol o’r gogledd i’r de ar gyrion gorllewinol Cymru.
Nid oes cefnffordd arall rhwng Aberystwyth a Machynlleth, heb gael eich dargyfeirio hanner can milltir.
Bwriedir dechrau’r gwaith yn ystod y mis nesaf, a’i gwblhau ddiwedd 2012.