Mwy o Newyddion
Cymorth i’n Lluoedd Arfog a’u teuluoedd
Mae’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews, wedi bod yn sôn am y cynnydd sydd wedi’i wneud o ran cymorth Llywodraeth Cymru i gymuned y Lluoedd Arfog.
Dechreuodd y Gweinidog drwy dalu teyrnged i gyfraniad aelodau’r lluoedd arfog ddoe a heddiw, cyn mynd ati i fanylu ar y cymorth a’r buddion sydd ar gael iddynt yng Nghymru.
Meddai: “Wrth i Sul y Cofio agosáu, rydym yn naturiol yn meddwl am y digwyddiadau sydd wedi’u trefnu i nodi’r achlysur.
“Wrth gwrs, mae eleni wedi bod yn flwyddyn o gofio digwyddiadau o bwys.
“Er enghraifft, ym mis Medi cefais y fraint o fynychu Gwasanaeth Coffa Brwydr Prydain yn Abaty Westminster.
“Yn gynharach eleni roeddem yn nodi 70 mlynedd ers Diwrnod VE. Y flwyddyn nesaf bydd yn ganmlwyddiant brwydr Coedwig Mametz, ac wrth gwrs mae Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu arian at gronfa’r gofeb yno.
“Yn ystod y penwythnos mynychais Ŵyl Goffa’r Lleng Brydeinig Frenhinol, ar y cyd ag Arweinydd yr Wrthblaid ac Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, a nos Sul fe fûm yng nghyngerdd coffa blynyddol y Rhondda.
“Yfory bydd Prif Weinidog Cymru yn agor Maes y Cofio ar dir Castell Caerdydd a bydd yn mynychu’r Gwasanaeth Cofio ym Mharc Cathays, Caerdydd ddydd Sul.
“Mae digwyddiadau fel y rhain yn ein hatgoffa mai drwy aberth ein Lluoedd Arfog yr ydym ni’n gallu byw yn y gymdeithas rydd sydd gennym heddiw.”
Aeth Leighton Andrews ati wedyn i dynnu sylw at y cymorth sydd ar gael i gymuned y Lluoedd Arfog ar draws pob portffolio Gweinidogol, yn ogystal â’r cymorth a ddarperir gan sefydliadau sy’n bartneriad i’r Llywodraeth, megis Gwasanaeth Prawf Cymru a’r Lleng Brydeinig Frenhinol.