Mwy o Newyddion

RSS Icon
04 Tachwedd 2015

Rhaglen Cymorth TB yn cael ei chyhoeddi ledled Cymru

Cyhoeddodd Rebecca Evans, y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd ddoe ei bod yn lansio rhaglen Cymorth TB ledled Cymru, yn dilyn rhaglen beilot lwyddiannus. 

Mae rhaglen Cymorth TB yn cynnig pecyn cymorth pwrpasol yng Nghymru drwy ymweliadau milfeddygol, ar gost Lywodraeth Cymru, yn dilyn achos o TB.  Bydd milfeddyg preifat yn cynnal yr ymweliadau (milfeddyg y ffermwr ei hun ble yn bosib) a bydd yn cynnwys cyngor pwrpasol am bioddiogelwch a chyngor ar sut i glirio’r achos cyn gynted â phosib.  

Bydd sesiwn cyntaf ar ôl yr achos o TB, ac yna ragor o ymweliadau yn ystod y cyfnod heintio, gan gynnwys pan fydd y cyfyngu ar symudiadau wedi’u codi, i drafod sut y gall y fferm barhau i fod heb TB.  

Meddai Rebecca Evans: “TB yw un o’r problemau iechyd mwyaf difrifol yr ydym yn eu hwynebu, ond rydym yn parhau i adeiladu a datblygu rhaglen sydd yn ddigon cadarn a hyblyg i wneud gwahaniaeth, ac un sy’n golygu gweithio mewn partneriaeth tuag at ein nod o fod yn Gymru Heb TB.  

“Mae rhaglen beilot Cymorth TB wedi dangos mai’r ffordd orau o fynd i’r afael â’r clefyd yw mewn partneriaeth â diwydiant ffermio gwybodus, gyda chymorth proffesiwn milfeddygol sydd wedi’u hyfforddi’n llawn ac mewn cysylltiad llawn â’r ffermwyr.  Rwyf felly’n falch o gyhoeddi, o heddiw ymlaen, y bydd y Rhaglen Filfeddygol Cymorth TB ar gael i bob ffermwr yng Nghymru.”  

Meddai Christianne Glossop, Prif Swyddog Milfeddygol Cymru: “Mae milfeddygon preifat, gyda’u sgiliau, eu gwybodaeth a’u perthynas gyda ceidwaid gwartheg, mewn lle da i roi cyngor sydd wedi’i deilwra.

"Yn ystod yr ymweliad Cymorth TB, gall milfeddygon egluro’r wyddoniaeth y tu ôl i’r clefyd yn ogystal â pholisïau Llywodraeth Cymru sydd wedi’u cynllunio i ddileu TB gwartheg  yn gyfangwbl o Gymru.  Gallant hefyd drafod arferion gorau wrth atal clefydau a chynllunio wrth gefn ar gyfer pob prawf TB a gynhelir ganddynt.” 

Mae swyddogaeth y milfeddyg preifat yn ganolog i ddarparu rhaglen dileu TB effeithiol.  Mae Cymorth TB yn galluogi practisau preifat a milfeddygon i gymeryd mwy o ran yn y rhaglen ddileu yng Nghymru. 

Dylai ffermwyr sydd ag achos o TB ar eu fferm ac sy’n dymuno manteisio ar wasanaeth Cymorth TB ofyn i’w henwau cyswllt yn Yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion am ragor o wybodaeth.  Am fwy o wybodaeth ewch i: www.gov.wales/cymorthtb
 

Rhannu |