Mwy o Newyddion

RSS Icon
03 Tachwedd 2015

‘Y Cyflog Byw yn allweddol i helpu pobl Cymru ddod allan o dlodi’ meddai Oxfam Cymru

Yn ystod Wythnos Cyflog Byw sy’n dathlu’r Cyflog Byw a chyflogwyr Cyflog Byw, mae Oxfam Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud Cymru yn genedl Cyflog Byw er mwyn helpu mwy o bobl ddod allan o dlodi.

Mae ymchwil newydd a ryddhawyd gan KPMG yr wythnos hon yn dangos bod canran o bobl Cymru sy’n ennill llai na’r Cyflog Byw wedi codi o 24% i 26%. Mae hyn yn dilyn adroddiad gan Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a ryddhawyd ddydd Gwener ddiwethaf, oedd yn dangos bod 23% o bobl yng Nghymru nawr yn byw mewn tlodi - mwy nac yn Lloegr (19.3%) a’r Alban (18.3%).

Prynhawn heddiw, bydd Aelodau Cynulliad yn trafod yr adroddiad a gwaith Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, ac mae Oxfam Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy er mwyn gwneud Cymru yn genedl Cyflog Byw.

Mae Llywodraeth Cymru a’r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol yng Nghymru eisoes yn gyflogwyr Cyflog Byw ond mae’r asiantaeth gymorth yn credu y dylai’r Llywodraeth bresennol yng Nghymru a’r Llywodraeth nesaf sicrhau bod pob corff cyhoeddus yng Nghymru yn talu’r Cyflog Byw a bod dulliau eraill megis cyllid grantiau a chaffael yn cael eu defnyddio i annog sectorau eraill i dalu cyflogau gwell hefyd.

Meddai Matthew Hemsley, Rheolwr Ymgyrchoedd ac Eiriolaeth Oxfam Cymru: “Mae’r ystadegau hyn yn dangos pa mor ddifrifol yw’r sefyllfa yng Nghymru o ran tlodi ac anghydraddoldeb economaidd yng Nghymru, a bod gwir angen am newid.

“Mae tlodi mewn gwaith ar gynnydd, a hynny yn rhannol oherwydd cyflogau isel. Byddai cael mwy o bobl yn derbyn y Cyflog Byw yn gam pwysig wrth fynd i’r afael â thlodi yng Nghymru.

“Byddai’r newid hwn hefyd yn lleihau anghydraddoldeb rhyw, gan ein bod yn gwybod bod tlodi yn effeithio mwy ar ferched - merched sy’n gwneud 80% o swyddi rhan amser yng Nghymru ac mae nifer o’r swyddi hyn yn talu llai na’r Cyflog Byw.

“Rydym angen i Lywodraeth Cymru wneud popeth o fewn eu cyrraedd i sicrhau safon dderbyniol o fyw i bobl Cymru. Ni fydd y Cyflog Byw yn datrys yr holl broblemau, ond mae’n gam cyntaf pwysig i sicrhau gwaith digonol i bawb.” 

Llun: Matthew Hemsley

Rhannu |