Mwy o Newyddion
Angen gwella’r defnydd o’r Gymraeg mewn etholiadau
Roedd llai o wybodaeth cyn yr Etholiad Cyffredinol diwethaf ar gael yn Gymraeg nag yn Saesneg, ac roedd y defnydd o’r Gymraeg wrth gyhoeddi canlyniadau’r Etholiad yn anghyson ar draws Cymru. Dyna ddau o brif gasgliadau adroddiad arolwg a gyhoeddwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg.
Dywedodd y Comisiynydd bod angen i Lywodraeth y DU a’r Comisiwn Etholiadol ystyried casgliadau ac argymhellion yr adroddiad er mwyn sicrhau y gall pobl Cymru gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd drwy gyfrwng y Gymraeg.
Yn ystod mis Ebrill 2015, edrychodd y Comisiynydd ar wefannau pob awdurdod lleol yng Nghymru er mwyn gweld beth oedd profiad y dinesydd wrth iddynt geisio dod o hyd i wybodaeth a chofrestru i bleidleisio yn Gymraeg. Bu’n edrych ar wefan y Comisiwn Etholiadol a gwefan Llywodraeth y DU (gov.uk) a oedd hefyd yn cynnwys gwybodaeth am yr etholiad. Ystyriodd yn ogystal sampl o glipiau fideo o ganlyniadau’r etholiad er mwyn gweld sut oedd y Gymraeg yn cael ei defnyddio wrth gyhoeddi’r canlyniadau.
Daw’r Comisiynydd i’r casgliadau canlynol:
· Bod y rhan fwyaf o awdurdodau lleol wedi darparu ffurflenni cofrestru i bleidleisio trwy gyhoeddi dolen at wefan y Comisiwn Etholiadol neu gov.uk. Methodd nifer ohonynt â chynnwys dolen at dudalennau Cymraeg y gwefannau hynny.
· Bod anghysondeb wrth i rai Swyddogion Canlyniadau gyhoeddi’r canlyniadau’n gyfan gwbl ddwyieithog, rhai yn rhannol ddwyieithog ac eraill yn Saesneg yn unig.
Lluniodd y Comisiynydd 15 o argymhellion er mwyn gwella’r defnydd o’r Gymraeg erbyn Etholiad y Cynulliad Cenedlaethol ac Etholiad Comisiynwyr Heddlu a Throsedd yn 2016. Mae’r argymhellion yn ymwneud â sicrhau bod yr un lefel o wybodaeth ar gael yn y Gymraeg ag sydd yn y Saesneg; bod yr wybodaeth Gymraeg yn hawdd ei chyrraedd ac yn gyfartal â’r Saesneg o ran cynnwys, safon a diwyg, a chyhoeddi canlyniadau etholiadau yn llawn yn Gymraeg.
Wrth gyhoeddi’r adroddiad, dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws: “Mae pleidleisio a chymryd rhan mewn etholiadau yn un o’n hawliau sylfaenol fel dinasyddion ac yn rhywbeth sy’n berthnasol i bob un ohonom. Wrth wneud yr arolwg hwn, gwelais bod lle i wella lefel y gwasanaeth a’r wybodaeth am bleidleisio.
“Mae’n galonogol bod y Comisiwn Etholiadol wedi ymateb yn gadarnhaol i’r argymhellion, a bod Swyddfa Cymru wedi ymrwymo i weithio â’r Swyddfa Gabinet i fynd i’r afael â’r materion a godir yn yr adroddiad cyn yr etholiadau fis Mai nesaf."
Cliciwch yma i ddarllen adroddiad yr arolwg yn llawn