Mwy o Newyddion

RSS Icon
03 Tachwedd 2015

Ailsefydlu ffoaduriaid yn Aberystwyth cyn y Nadolig

Mae trefniadau terfynol yn cael eu paratoi ar gyfer ailsefydlu rhwng 10-12 o ffoaduriaid o Syria yn Aberystwyth cyn y Nadolig. Mae’r ffoaduriaid wedi eu blaenoriaethu gan staff o’r Cenhedloedd Unedig, gan weithio’n agos gyda’r Swyddfa Gartref i benderfynu ar eu addasrwydd i’w hailsefydlu yng Ngheredigion.

Mae aelodau o’r Grwp Gorchwyl a Gorffen wedi bod yn gweithio gyda swyddogion o’r Swyddfa Gartref i alluogi i’r grwp bychan o bobl yma i gyrraedd yn ddidramgwydd, wrth iddynt ffoi effeithiau’r argyfwng yn Syria.

Dywedodd Cadeirydd y Grwp, Ellen ap Gwynn: “Mae’r bobl yma yn bobl gyffredin o gefndiroedd cyffredin sydd wedi bod yn dystion i ddigwyddiadau na ddylai unrhyw un i fyw trwyddyn nhw.

"Mae aelodau’r Grwp Gorchwyl a Gorffen wedi ymrwymo i gydweithio er budd y bobl yma, a rydym i gyd yn parhau i gael ein h’annog gan yr ymateb dyngarol brwd sydd yn cael ei arddangos gan bobl ar draws Ceredigion.”

Bydd y ffoaduriaid yn cael eu cartrefu mewn tai sydd wedi eu gwneud ar gael gan landlordiaid o’r sector breifat. Caiff y tenantiaethau yna eu rheoli ar eu rhan gan y Gymdeithas Gofal, sefydliad gwirfoddol anibynnol. 

Rhannu |