Mwy o Newyddion

RSS Icon
03 Tachwedd 2015

Gweinidog i gwrdd â'r cwmnïau dur a'r undebau

Mae Gweinidog yr Economi, Edwina Hart, wedi trefnu cyfarfod brys gyda’r cwmnïau cynhyrchu dur a’r undebau llafur ym Mae Caerdydd yr wythnos yma, i drafod sut mae osgoi argyfwng yn y diwydiant yng Nghymru.

Ar ôl y cyhoeddiadau diweddar am golli swyddi ar draws  diwydiant dur y DU, bydd cynrychiolwyr cwmnïau dur Cymru a’r undebau yn dod i gwrdd â’r Gweinidog ddydd Iau 5 Tachwedd i drafod sut gelir gwneud y diwydiant yn fwy cynhyrchiol a chystadleuol.

Mae Llywodraeth Cymru ac arweinwyr y diwydiant dur wedi galw dro ar ôl tro ar Lywodraeth y DU i wneud mwy i ostwng y prisiau  ynni yng Nghymru a gweddill Prydain, gan fod miloedd o swyddi yn y fantol.

Mewn uwch-gynhadledd ddiweddar yn Rotherham, cytunodd y Gweinidog y byddai Llywodraeth Cymru’n cymryd rhan mewn amryw o grwpiau gwaith gyda Llywodraeth y DU i ganfod atebion posibl i’r heriau sy’n wynebu’r diwydiant dur – heriau nas gwelwyd mo’u tebyg o’r blaen.

Wrth siarad cyn y cyfarfod, dywedodd Mrs Hart: “Mae’n amlwg bod y diwydiant dur yng Nghymru ar ymyl y dibyn. Mae’r galw am ddur yn cael ei effeithio gan fewnforion dur o dramor yn llenwi’r  farchnad ac mae Cymru dan anfantais fawr oherwydd y costau ynni uchel.

“Er bod llawer o’r cymhellion a allai ddylanwadu ar y diwydiant tu hwnt i reolaeth Llywodraeth Cymru, ryw’n ffyddiog y gallwn ni wneud llawer i helpu dur Cymru i oroesi.

"Does dim digon yn cael ei wneud ar lefel y Deyrnas Unedig felly mae’n rhaid inni weithredu yn awr i sicrhau dyfodol ein diwydiant dur sydd mor hanfodol os yw ein heconomi i ffynnu yn y dyfodol.

“Byddwn yn gwrando ar bryderon y diwydiant ac yn lobïo Llywodraeth y DU i gymryd camau ar frys cyn i ragor o swyddi gael eu colli yn y diwydiant dur yng Nghymru.”

Cynhelir y cyfarfod yn Nhŷ Hywel, Bae Caerdydd,  ddydd Iau 5 Tachwedd.
 

Rhannu |