Mwy o Newyddion
Er cof am y Prifardd Tomi Evans
Bydd llechen goffa yn cael ei gosod ar wal yn Sir Benfro er cof am y Prifardd Tomi Evans ar Fai 21.
Yr Archdderwydd presennol, Jim Parc Nest, fydd yn dadorchuddio’r plac ar wal Blaenffynnon, Tegryn, lle ganed Tomi Evans, a lle y bu’n byw ar hyd ei oes.
Bu Tomi Evans yn cystadlu mewn eisteddfodau mawr a bach ar hyd y blynyddoedd, ac enillodd dros ddwsin o wobrau yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Ond ei orchest fawr oedd ennill cadair Eisteddfod Genedlaethol Rhydaman yn 1970 ar ei gynnig cyntaf, pan oedd yn 65 mlwydd oed. Testun yr awdl oedd ‘Y Twrch Trwyth’.
Wrth gael ei yrru i’r brifwyl gan ei nith, nododd y gwerinwr diymhongar a di-lol y “bydde well gyda fi gael y gader ‘ma drwy’r post, cofia”.
Mae’r gadair a enillodd Tomi Evans yn gadair hynod – o ddyluniad canoloesol ond wedi ei gwneud o fformeica gwyn a choch gyda brethyn gwyrdd ar y cefn a’r sedd – tipyn yn wahanol i’w gadair gyntaf, sef stôl odro.
Mae’r gadair bellach yng nghartref ei nith yn Llanfrothen.