Mwy o Newyddion
Mesurau newydd i sicrhau triniaeth gyflymach ar gyfer iechyd meddwl yng Nghymru
Mae 'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Mark Drakeford, wedi cyhoeddi y bydd y targed amseroedd aros ar gyfer trin pobl sy'n dioddef salwch meddwl yng Nghymru yn cael ei ostwng o 56 i 28 diwrnod, er mwyn sicrhau bod triniaeth ar gael yn gyflymach.
Cyflwynodd Llywodraeth Cymru amseroedd aros ar gyfer asesu a thrin gan wasanaethau cymorth sylfaenol iechyd meddwl lleol yn 2012.
Ar hyn o bryd, dylai bod pobl sy'n cael eu hatgyfeirio i gael asesiad iechyd meddwl yn cael eu gweld o fewn 28 diwrnod. Yn dilyn yr asesiad, dylai bod y rhai y mae angen triniaeth arnynt yn ei gael o fewn 56 diwrnod.
Mae'r targed 56 diwrnod o'r asesiad i'r driniaeth wedi newid i fod yn darged 28 diwrnod, i sicrhau bod triniaeth ar gael i bobl yn brydlon. Deuddeg wythnos oedd yr amser aros cyfunol blaenorol.
Bydd disgwyl i bob bwrdd iechyd ddangos cynnydd o ran cyflawni'r targed newydd hwn erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.
Mae amseroedd aros ar gyfer asesiad a thriniaeth iechyd meddwl yng Nghymru eisoes yn fwy caeth na'r amseroedd aros hynny yn Lloegr. Ym mis Ebrill 2015, cyflwynodd y GIG yn Lloegr darged y dylai 75% o oedolion ddisgwyl gael triniaeth o fewn chwe wythnos ac y dylai 95% ddisgwyl cael triniaeth o fewn 18 wythnos.
Wrth gyhoeddi'r newidiadau, dywedodd yr Athro Drakeford: "Bydd un allan o bob pedwar o bobl yng Nghymru, rhywbryd yn eu bywyd, yn dioddef salwch meddwl. Dyna pam mae iechyd meddwl yn un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru.
"Ers 2011, rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran gwella'r gwasanaethau, y gofal a'r cymorth sydd ar gael i bobl sy'n dioddef salwch meddwl yng Nghymru, wrth gyflwyno'r Mesur Iechyd Meddwl.
"Bydd y cyhoeddiad hwn yn helpu i sicrhau bod triniaeth ar gael yn brydlon. Bydd hynny'n sicrhau bod pobl sydd angen gofal a chymorth arbenigol yn cael y gwasanaethau iawn yn y lle iawn ar yr amser iawn. Mae rhai sefydliadau eisoes yn cyrraedd neu'n agos at gyrraedd y targed newydd hwn. Rwy'n disgwyl i fyrddau iechyd eraill wneud cynnydd o ran cyrraedd y targed tynnach hwn erbyn diwedd mis Mawrth."
Mae cyllid iechyd meddwl yng Nghymru wedi cael ei glustnodi'n benodol ers 2008-09 i warchod a gwella gwasanaethau craidd; yn 2010-11 cafodd y cyllid hwn ei ehangu i gynnwys gwariant gofal sylfaenol a gwasanaethau arbenigol.
Y flwyddyn hon, mae'r gyllideb ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru yn £587m, o'i gymharu â £389m yn 2009-10. Mae hyn yn cyfateb i 11.4% o gyfanswm cyllideb y GIG - y maes gwariant unigol mwyaf.
Hefyd, yn gynharach eleni, cyhoeddodd yr Athro Drakeford y bydd £15.6m yn ychwanegol yn cael ei fuddsoddi bob blwyddyn mewn gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru. Mae hyn yn dod â chyfanswm y buddsoddiad i fwy na £600m. Bydd hyn yn helpu i wneud gwelliannau pellach mewn nifer o feysydd allweddol, gan gynnwys gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed a gofal dementia.