Mwy o Newyddion

RSS Icon
02 Tachwedd 2015

Sganiwr MRI Newydd yn Ysbyty Glan Clwyd yw'r cyntaf yn un o ysbytai GIG Cymru

Cyhoeddwyd heddiw (ddydd Llun 2 Tachwedd) bod buddsoddiad o £740,000 gan Lywodraeth Cymru wedi galluogi Ysbyty Glan Clwyd i fod yr ysbyty cyntaf yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru i ddefnyddio sganiwr MRI agored newydd.
Bydd y peiriant newydd a modern hwn yn cynyddu capasiti'r ysbyty ac yn lleihau amserau aros i gleifion ar hyd a lled y Gogledd.

Mae'r uned MRI sy'n cynnal pwysau – sef y G-Scan – yn golygu bod yr ysbyty erbyn hyn yn gallu sganio cleifion mewn unrhyw ystum, o sefyll i orwedd i lawr fel sy'n draddodiadol.

Gan ddibynnu ar ym mha ran o'r corff y mae'r claf yn dioddef poen, mae ei roi i eistedd gan gynnal ei bwysau i'w sganio yn gallu datgelu cyflyrau nad ydyn nhw'n amlwg wrth iddo orwedd i lawr wrth gael sgan.

Mae'r peiriant yn defnyddio system fagnetig agored yn hytrach na'r system 'twnnel' draddodiadol, ac mae'n ddelfrydol ar gyfer cleifion sy'n glawstroffobig. Bydd y sganiwr MRI hefyd yn lleihau costau trydan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr hyd at £50,000 y flwyddyn.

Daw'r arian o Gronfa Technoleg Iechyd gwerth £25m Llywodraeth Cymru sy'n buddsoddi yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru i wella'r gofal a roddir i gleifion

Dywedodd Vaughan Gething, y Dirprwy Weinidog Iechyd: "Rydyn ni'n buddsoddi yn y dechnoleg ddiweddaraf sydd ar gael i sicrhau bod gan gleifion fynediad at y triniaethau mwyaf diweddar.

“Gwnaeth y bwrdd iechyd gais am arian gan Lywodraeth Cymru er mwyn bod yr ysbyty cyntaf yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru i gael y sganiwr hwn. Bydd yn cynyddu'r gallu i wneud diagnosis yn yr ysbyty ac yn helpu i leihau amserau aros.

"Mae hyn yn dangos ein hymrwymiad parhaus i fuddsoddi yn ein gwasanaeth iechyd i ddarparu gwasanaethau o'r radd flaenaf i gleifion."

Dywedodd Mrs Pat Youds, Pennaeth Staff Cysylltiol ar gyfer Radiograffeg yng Ngogledd Cymru: "Mae cael y G-scan yn golygu bod gennym gapasiti ychwanegol i fodloni'r galw mawr am sganio cleifion sy'n cael eu hatgyfeirio o bob rhan o'r Gogledd. Bellach, mae gennym ni opsiwn mwy radical i sganio cleifion na fyddai efallai'n gallu goddef y profiad o gael sgan MRI arferol dros eu corff cyfan, neu sy'n cael symptomau dim ond wrth iddyn nhw gynnal pwysau, er enghraifft wrth eistedd."

Mae Ruthann Parker, claf 48 oed o'r Rhyl, yn egluro: "Fe wnes i syrthio gartref tua 10 mis yn ôl. Roedd y meddygon yn Ysbyty Glan Clwyd yn amau fy mod i wedi torri fy sgaffoid. Ond, gan nad yw hyn fel arfer yn ymddangos ar belydr-X, awgrymodd y meddygon bod angen i mi gael sgan MRI ac roeddwn i'n ofni hyn yn fawr gan i mi ddioddef clawstroffobia difrifol wrth gael sganiau MRI yn y gorffennol. I mi, mae bod mewn sganiwr MRI caeedig yn dipyn o hunllef.

"Roeddwn i wrth fy modd pan glywais gan yr ysbyty fod yno beiriant MRI newydd a oedd yn un agored! Roedd y peiriant hwn yn golygu nad oedd yn rhaid i mi gadw fy nghorff cyfan yn llonydd, dim ond fy llaw, felly roeddwn i'n gallu siarad ac ymlacio trwy'r sgan. Y diagnosis oedd bod gen i broblem â'm ligament, ac mae wrthi'n gwella ar hyn o bryd.

"Roedd hyn yn brofiad a wnaeth newid fy mywyd: dwi wedi bod yn byw mewn poen oherwydd anafiadau a gefais mewn damwain car ers bron 30 mlynedd, a dylwn i fod wedi cael sawl sgan MRI ar eu cyfer erbyn hyn. Bydd gwybod y gallaf gael mynediad at sganiwr MRI agored yn golygu y gallaf gael diagnosis a thriniaeth o'r diwedd ar gyfer anafiadau yr oeddwn i'n meddwl na fydden nhw fyth yn cael eu datrys."

 

Rhannu |