Mwy o Newyddion
Cyfle olaf i gynnig am hyd at £4,000 o arian Tyfu’n Wyllt i helpu eich cymuned i flodeuo
Mis yn unig sy’n weddill i grwpiau cymunedol ledled Cymru gynnig am rhwng £1,000 a £4,000 gan Tyfu’n Wyllt i greu llecynnau ysbrydoledig. Gan fod dros £200,000 ar gael ar gyfer gwledydd Prydain, mae Tyfu’n Wyllt yn chwilio am brosiectau sy’n defnyddio blodau a phlanhigion brodorol mewn ffordd flaengar i ddod â lliw a bywyd gwyllt i’w hardal leol.
Gyda chefnogaeth gan Gronfa’r Loteri Fawr a than arweiniad Gerddi Botaneg Brenhinol, Kew mae menter Tyfu’n Wyllt yn ystod 2014-15 wedi adeiladu rhwydwaith o fwy na 150 brosiectau yng ngwledydd Prydain, gan gynnwys naw yng Nghymru. Roedd y rhain yn amrywio o drawsnewid llecynnau cymunedol i encilfeydd prydferth, amlygu pwysigrwydd tir glas mewn ardaloedd trefol, yn enwedig felly ar gyfer iechyd meddwl a llesiant cymdeithasol, sioe gerdd am flodau gwyllt a ddaeth â barddoniaeth a natur yn fyw a gweithdai gwahanol i ddangos i wirfoddolwyr sut i hau a thyfu eginblanhigion blodau gwyllt ledled Cymru.
Un o’r grwpiau llwyddiannus eleni oedd prosiect Treganna’n Tyfu’n Wyllt yng Nghaerdydd ac mae Gareth Sims, cydlynydd y prosiect yn esbonio manteision yr arian, “Mae pawb wedi mwynhau bod yn rhan o’r prosiect hwn. Rwyf wedi byw yn yr ardal hon trwy gydol fy mywyd ac mae wedi bod yn wych ei weld yn cael ei drawsnewid yn lle i natur dyfu ac i fywyd gwyllt ddod iddo. Rydyn ni’n gobeithio fod datblygu’r llecynnau cymunedol hyn wedi annog pobl i barchu’r hyn sydd o’u cwmpas a bod yn falch o ofalu am eu hamgylchedd.”
Ychwanegodd, “Mae’r broses ariannu wedi bod yn rhwydd ac mae’r we-dudalen yn gallu diweddaru’r newyddion wrth inni fynd ac mae’r ffurflen gyllid yn syml ond effeithiol. Mae’n gweithio ac yn gweithio’n dda.”
Dywedodd Maria Golightly, Rheolydd Partneriaeth Cymru ymgyrch Tyfu’n Wyllt, “Dylai unrhyw un sy’n gwneud cais ystyried sut fydd eu prosiect yn cynnig cyfleoedd gwirfoddoli i bobl ifanc rhwng 12-25 oed ac i oedolion. Dylai prosiectau feddwl yn greadigol hefyd am rannu storïau, ffotograffau a gweithgareddau o’u llecynnau.”
Rhaid derbyn ceisiadau am gyllid 2016 erbyn 1 Rhagfyr 2015. Yna bydd panel o arbenigwyr yn helpu penderfynu pwy fydd yn cael arian. Caiff grwpiau llwyddiannus wybod ym mis Chwefror 2016 yn barod i ddechrau eu prosiect ym mis Mawrth, a gorffen erbyn mis Hydref 2015.
Er mwyn cael mwy o wybodaeth am ymuno â rhwydwaith prosiectau cymunedol Tyfu’n Wyllt erbyn 1 Rhagfyr 2015, ewch i growwilduk.com/community-project-funding i drefnu trafodaeth gyda’r tîm.
Mae Tyfu’n Wyllt hefyd yn creu safle arweiniol yng Nghymru, gan ariannu 50 o brosiectau dan arweiniad pobl ifanc ledled gwledydd Prydain a rhannu miloedd o becynnau hadau rhad ac am ddim.