Mwy o Newyddion
Annog pobl i ddweud eu dweud ar gynllun peilonau newydd
Mae AS Plaid Cymru dros Arfon Hywel Williams wedi galw ar y Grid Cenedlaethol i edrych eto ar sail eu hymgynghoriad ar ail gam Prosiect Cysylltiad Gogledd Cymru, gan ei fod yn methu â chydnabod defnyddio ceblau tanfor i gario trydan o Wylfa B i Lannau Dyfrdwy fel opsiwn ymarferol .
Ar hyn o bryd mae'r Grid Cenedlaethol yn ymgynghori ar gynlluniau i gario trydan o Wylfa B ar Ynys Môn at is-orsaf ym Mhentir yn Arfon. Hywel Williams AS arweiniodd ymgyrch leol llwyddiannus i danddaearu y cysylltiad ar draws y Fenai.
Mae pob un o’r tri opsiwn yr ymgynghorir arnynt yn cynnwys coridor newydd o beilonau o’r Fenai i Pentir. Gallai hyn gael effaith andwyol ar ardaloedd megis Bangor, Nant y Garth, Y Felinheli a Rhiwlas.
Dywedodd Hywel Williams AS: “Yr wyf yn parhau i fod yn argyhoeddedig mai'r unig ateb derbyniol yw cario'r trydan ar geblau tanfor o Ogledd Ynys Môn. Mae ymgynghoriad y Grid ei hun yn dangos bod pobl leol eisiau cebl tanfor ac yn erbyn mwy o beilonau.
"Os yw’r Grid Cenedlaethol yn gwrthod tycio ar yr opsiwn tanfor, yna mae'n hanfodol fod y cysylltiad yn cael ei danddaearu pan fo hynny'n bosibl. Nid oes ganddynt unrhyw wrthwynebiad mewn egwyddor gan eu bod wedi cyhoeddi tanddaearu pellach mewn parciau cenedlaethol yn ddiweddar. Mae'n fater o gost felly. Ond bydd y gost yn cael ei ledaenu dros 60 mlynedd neu fwy.
"Ymddengys nad yw’r gost negyddol ar dwristiaeth, gweithgareddau awyr agored ac amwynder gweledol fyth yn cael ei ystyried. Ni ddyliem orfod amsugno’r gost pan fydd yn eraill yn cael y budd pennaf o ynni rhatach a mwy ohono.
"Rwy'n annog pobl leol i ddweud eu dweud ac ymateb i'r ymgynghoriad hwn.”
Dywedodd y Cyng. Siân Gwenllian: “Mae'n bwysig bod pobl yn ymateb i'r ail ymgynghoriad yma os ydynt yn gwrthwynebu mwy o beilonau ar dir mawr Gwynedd, yng nghyffiniau Y Felinheli a Bangor.
"Roeddem yn llwyddiannus yn ein hymgyrch i gael ateb tanddaearol o dan y Fenai. Nid oes unrhyw reswm pam na all y ceblau gael eu tanddaearu o’r arfordir i’r is-orsaf ym Mhentir.
"Ond mae darlun ehangach: gallai'r Grid gario’r trydan ar geblau tanfor o Wylfa i Lannau Dyfrdwy, gan wneud i ffwrdd ag unrhyw beilonau neu dan-ddaearu ar Ynys Môn neu Wynedd.
"Mae'n ymddangos mai’r brif ddadl yw’r gost, ond nid yw gwir gost, gan gynnwys y golled i dwristiaeth a'r economi, wedi cael ei ystyried, mewn ymgynghoriad sydd wedi bod yn ddiffygiol o'r cychwyn cyntaf. Lleisiwch eich barn drwy gymryd rhan yn yr ymgynghoriad yma.”
Dywedodd y Cyng. John Wyn Williams, Pentir: “Y dewis gorau yw cario’r trydan ar geblau o dan y môr o Wylfa i Lannau Dyfrdwy. Yna ni fyddai angen peilonau newydd ar Ynys Môn na Gwynedd.
"Ond os yw’r Grid yn bwrw mlaen gyda'r opsiwn peilonau, yna nid oes unrhyw reswm pam na all y ceblau fynd o dan ddaear yr holl ffordd o Afon Menai i'r is-orsaf yn Pentir.”