Mwy o Newyddion

RSS Icon
02 Tachwedd 2015

Hwyl i'r teulu a chyffro ar gyflymder uchel yn Rallyfest Castell y Waun

Yn fwy cyfarwydd â chynnal gwleddoedd canoloesol, teithiau o gwmpas ystafelloedd swyddogol a llwybrau coedwigol, bydd Castell y Waun yn croesawu mwy na 150 o geir rali yn poeri fflamau yn ddiweddarach y mis hwn fel un o’r prif atyniadau cyfeillgar at deuluoedd yn Rali Cymru GB (12-15 Tachwedd).

Mae cymal RallyFest Castell y Waun ar ddydd Sadwrn, 14 Tachwedd yn sicr o fod yn un o ddigwyddiadau’r penwythnos sy’n sefyll allan – gwledd uchel-octan o gyffro ralïo trawiadol ac o hwyl i bob oed. Ar ben hynny, wedi’i lleoli ar Ororau Cymru yn agos i Wrecsam a’r A5, mae’r gyrchfan hanesyddol yma’n hawdd ei chyrraedd.

Mae’r cyffro’n cychwyn am 9.30am, wrth i gystadleuwyr yn Rali Genedlaethol Network Q WRGB gyrraedd i ruthro ar eu cyflymaf o amgylch ffyrdd llithrig y parcdir sy’n amgylchynu’r castell canoloesol godidog, cyn i sêr Pencampwriaeth Rali’r Byd FIA ruo i’r golwg yn y prynhawn.

Rhwng y ddau ddigwyddiad, bydd y cefnogwyr yn cael eu diddanu gan nifer o orymdeithiau ac arddangosfeydd gydag uwchgeir ecsotig, ceir ralïo ‘Slowly Sideways’ eiconig o’r blynyddoedd a fu, rasys Supermoto syfrdanol a sioe styntiau i’ch gwneud yn gegrwth gan ddaliwr Record Byd Guinness 22 o weithiau o’r enw Terry Grant – i roi diwrnod llawn, cynhyrfus ar diroedd deiliog y castell. Os bydd hi’n braf, bydd y Red Bull Matadors trawiadol yn cyflwyno sioe awyr syfrdanol hefyd.

Ar ben hynny, mae cyfleusterau sydd wedi’u gwella yn cynnwys dangos y rali’n fyw ar sgrîn fawr, sylwebaeth, mannau gwerthu bwyd a reidiau ffair fach i’r ifanc a’r ifanc eu calon - sy’n golygu y gellir mwynhau’r awyrgylch rali llawn heb orfod troedio cam y tu allan i derfynau’r castell.

“RallyFest yw’r lleoliad perffaith i gefnogwyr sy’n newydd i’r gamp gyffrous yma, ac mae’n ddiwrnod allan gwerth-eich-arian rhagorol, ag iddo ogwydd teuluol, i bawb,” meddai Ben Taylor, Rheolwr-Gyfarwyddwr Rali Cymru GB.

“Mae Castell y Waun yn gefnlen syfrdanol o hardd i ddiwrnod gwych o adloniant anhygoel, ac mae gennym ddiwrnod llawn o weithgaredd cyffrous ar gynnig a fydd yn bleser llwyr i ffyddloniaid cyfarwydd chwaraeon rasio ceir, i wylwyr chwilfrydig ac i deuluoedd sy’n chwilio am ddiwrnod allan difyr.”

Mae tocynnau ymlaen llaw wedi’u cadw ar yr un pris â’r llynedd, gydag oedolion yn cael mynediad i’r RallyFest yng Nghastell y Waun am ddim ond £25* a phlant am ddim ond £1* (yn 9-15 oed yn gynhwysol; mae plant wyth mlwydd oed ac iau yn cael mynediad am ddim). Mae yna hefyd gynnig arbennig i deulu ar gyfer dau oedolyn a thri phlentyn yn costio £45*, gyda phob plentyn ychwanegol yn £1* ychwanegol. Mae pob tocyn RallyFest i oedolyn yn cynnwys rhaglen gwerth £9 am ddim. Ar y diwrnod, bydd tocynnau oedolion yn costio £30* a byddir yn codi £1* am docynnau plant – ’dyw’r cynnig tocyn teulu ond ar gael ymlaen llaw.

I osgoi tagfeydd traffig, bydd system unffordd yn cael ei gweithredu i mewn ac allan o Gastell y Waun ar ddydd Sadwrn, 14 Tachwedd. Bydd y ffordd sy’n arwain i’r maes parcio wedi’i chau wrth droad yr A5 o 14:00, cyn i’r cyfeiriad teithio’n gael ei droi y tu chwith yn unffordd yn unig ar gyfer mynd allan. Ni fydd hi’n bosib ymuno â’r ffordd at fynedfa’r maes parcio ar ôl 14:00. Dim ond o’r A5 dwy filltir i’r gogledd o dref Y Waun y dylech gyrraedd ac nid drwy’r Waun ei hun gan y bydd yr holl isffyrdd wedi’u cau.
 
I gael mwy o ddiweddariadau, dilynwch Rali Cymru GB ar Twitter @walesrallygb neu ymunwch â’r sgyrsiau ar Facebook ar www.facebook.com/walesrallygb

Rhannu |