Mwy o Newyddion
Gwarchod Diwydiant Dur Cymru ar yr Agenda yng Nghynhadledd Flynyddol Plaid Cymru
Roedd dyfodol diwydiant dur Cymru ar yr agenda yn ystod cynhadledd flynyddol Plaid Cymru yn Aberystwyth heddiw.
Yn ystod cyfarfod ymylol a gafodd ei gynnal gan Tata sy'n cyflogi dros 7,000 o bobl yng Nghymru a chefnogi dwy i dair gwaith y nifer hynny mewn dolenni cyflenwi lleol, trafodwyd sut y gellid gwarchod a diogelu swyddi presennol. Cynhaliwyd y cyfarfod ymylol cyn cynnig brys yn y gynhadledd ar ddyfodol y diwydiant dur yng Nghymru.
Dywedodd Pennaeth Materion Cyhoeddus Tata yn Ewrop, Tim Morris, fod y "sefyllfa yn heriol iawn ar hyn o bryd" i'r diwydiant dur ond ychwanegodd fod pethau y gellir eu gwneud i leihau'r pwysau.
Dywedodd fod "ongl Gymreig glir" yn perthyn i sut y mae dolenni cyflenwi lleol yn cael eu trafod o ran prosiectau isadeiledd mawr yng Nghymru.
Dywedodd Mr Morris hefyd y byddai ail-wampio'r system cyfraddau busnes, a orfodon nhw i dalu £400,000 yn ychwanegol bob blwyddyn ar ôl buddsoddi £180 miliwn mewn ffwrnais flast yn helpu.
Dywedodd Rhun ap Iorwerth AC, Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru ar yr Economi, y byddai datganoli rhai trethi i Gymru yn medru darparu hwb i gwmniau megis Tata.
"Mae hi'n bwysig ein bod yn anfon neges glir ar gyfraddau busnes" meddai Mr ap Iorwerth.
"Nid yw hyn am bwerau er eu mwyn eu hunain. Beth sy'n bwysig yw fod gennym yr offer angenrheidiol i alluogi cenedl fwy hyblyg er mwyn gwneud i bethau, yn cynnwys cyfraddau busnes, weithio o'n plaid."
Ychwanegodd y byddai cynlluniau Plaid Cymru i greu cwmni ynni cenedlaethol Cymreig yn helpu lleihau costau i gwmniau megis Tata.
"Mae gan gynlluniau Plaid Cymru i ddatblygu Ynni Cymru y potensial nid yn unig i helpu cwsmeriaid domestig gyda'i biliau ond hefyd cwmniau sy'n defnyddio llawer o ynni megis Tata" meddai Mr ap Iorwerth.
Roedd cyn Ddirprwy Brif Weinidog Cymru, Ieuan Wyn Jones, hefyd yn bresennol yn y digwyddiad a chytunodd yn ei gyfraniad y gellir gwneud llawer mwy i gynorthwyo gyda chostau ynni uchel.
Dywedodd Bethan Jenkins, AC Plaid Cymru dros Orllewin De Caerdydd, fod cyfle i Lywodraeth Lafur Cymru wneud mwy i gefnogi hyfforddiant prentisiaethau sgiliau-uchel ar gyfer cwmniau legis Tata i gyfiawnhau cynnal y mannau dur presennol yng Nghymru.
Dywedodd Helen Mary Jones, ymgeisydd Cynulliad Plaid Cymru dros Lanelli, tra bod llawer o ffocws yng Nghymru ar wneud dur ym Mhort Talbot, fod gweithfa ddur Trostre hefyd yn hanfodol i'r economi leol.
"Fel ymgeisydd Plaid Cymru yn Llanelli, mae hi'n bwysig dros ben fod posib i Tata aros" meddai Ms Jones. "Mae ganddynt bresenoldeb hanfodol yn Llanelli."
Llun: Rhun ap Iorwerth AC