Mwy o Newyddion
Cynlluniau ‘EVEL’ yn rhoi statws ail-ddosbarth i ASau Cymreig
Mae Jonathan Edwards AS Plaid Cymru wedi datgan beirnidaeth gryf o'r ffaith fod cynlluniau 'Pleidleisiau Lloegr-yn-unig' (EVEL) wedi eu pasio yn y Ty Cyffredin gan honni yn bydd y newid yn rhoi statws ail-ddosbarth i ASau Cymreig o fewn y Senedd Brydeinig.
Dywedodd Mr Edwards fod y ffaith fod EVEL bellach yn weithredol yn cynrychioli 'symudiad seismig' yn y modd mae Senedd San Steffan yn gweithredu ac mai'r unig ffordd o atal cynrychiolwyr o'r tu allan i Loegr rhag bod dan anfantais sylweddol oedd i sicrhau setliad cytbwys - o ran cyllido a phwerau - ledled y DG.
Dywedodd Mr Edwards: "Mae pasio'r cynlluniau fydd yn rhoi Pleidleisiau Lloegr-yn-unig ar waith yn y Tŷ Cyffredin yn cynyrchioli symudiad seismig yn y modd mae Senedd San Steffan yn gweithredu.
"Rydym wedi hen arfer a'r anghyfiawnder o Gymru'n cael ei thrin fel cenedl eilradd gan San Steffan. Nawr mae ein cynrychiolwyr wedi syrthio i'r un statws.
"Mae disgwyl i'r newid atal ASau Cymreig rhag pleidleisio ar ddeddfwriaeth fydd yn cael yr enw 'Lloegr-yn-unig' ond mewn gwirionedd yn cael effaith gyllidol ar Gymru.
"Yn dilyn refferendwm yr Alban, safodd y Prif Weinidog yn Downing Street gan addo "setliad cytbwys" i holl genhedloedd y DG. Mae'r hyn a welwn heddiw yn bell iawn o'r addewid hwnnw.
"Mae Plaid Cymru wastad wedi brwydro dros gydraddoldeb gyda gwledydd eraill y DG i Gymru. Nid oes unrhyw reswm yn y byd pam y dylai ein pobl setlo am fargen wanach.
"Mae'r Mesur Cymru a gyhoeddwyd yr wythnos hon yn ddarn egwan o ddeddfwriaeth gydd yn gadael Cymru dan anfantais sylweddol.
"Yr hyn sydd wir ei angen yw cydraddoldeb o ran cyllido a phwerau i bob rhan o'r DG, gyda llawer mwy o gyfrifoldebau yn cael eu trosglwyddo i'n Cynulliad Cenedlaethol sofran ein hunain yng Nghymru.
"Mae San Steffan yn trin Cymru gyda sarhad. Bydd Plaid Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i atal hyn."