Mwy o Newyddion
Evans yr arwr lleol yn anelu am y podiwm
Ar ôl sefyll ar y podiwm ddwywaith yn 2015 – yn yr Ariannin ym mis Ebrill ac yn Corsica yn gynharach y mis hwn yn dilyn perfformiad gwefreiddiol – mae Elfyn Evans yn edrych ymlaen i lwyddo am y trydydd tro o flaen ei gefnogwyr cartref yn Rali Cymru (12-15 Tachwedd).
Mae Evans wedi cyrraedd yr uchelfannau ym myd ralïo rhyngwladol y tymor hwn ac mae’n edrych ymlaen am frwydr yn Rali Sbaen y penwythnos hwn yn erbyn Kris Meeke i orffen yr ymgyrch fel y prif ddetholyn o blith gyrwyr Prydain.
Bydd y frwydr rhwng y ddau yn parhau yng nghoedwigoedd Cymru y mis nesaf ac ar ôl gorffen yn bedwerydd a phumed yn 2014, bydd Evans a Meeke ill dau yn awyddus i sicrhau eu lle ar y podiwm.
Isod, mae Evans yn edrych ymlaen at ei benwythnos pwysicaf eleni, wrth lyw ei gar Ford Fiesta RS WRC M-Sport.
Sut ydych chi’n teimlo wrth edrych ymlaen at Rali Cymru GB mis nesaf?
“Dwi wir yn edrych ymlaen at y digwyddiad; mae bob amser yn brofiad arbennig cael cyfle i gystadlu nôl adref fel rhan o Bencampwriaeth Rali’r Byd ac mae cefnogaeth y cefnogwyr yn anhygoel. Fedra’i ddim aros!”
Sut brofiad yw cystadlu nôl adref yng Nghymru?
“Mae’n anodd ei ddisgrifio. Mewn rhai ffyrdd mae’n eithaf od. Dwi’n nabod cymaint o bobl yn yr ardal y tu allan i’r byd ralïo, mae’n reit rhyfedd meddwl mod i’n ‘mynd allan i weithio’ yno ac yn gyrru dros 120mya! Mae Gartheiniog a Dyfi yn agos iawn at fy ardal enedigol, ac mae cael cyfle i gystadlu mor agos i’m cartref yn unigryw.”
Sut fyddech chi’n disgrifio her Rali Cymru GB?
“Mae’r cymalau’n wych. Ym mhob rhan arall o’r byd, pan fydd hi’n bwrw glaw ac yn fwdlyd, mae’n llithrig iawn – ond yma dyw hynny ddim yn broblem, ac rydych yn gallu setlo lawr, mynd amdani a mwynhau’r holl brofiad.”
Pa mor dda ydych chi’n meddwl y bydd eich Ford Fiesta RS WRC yn perfformio yng Nghymru?
“Dwi’n hyderus bydd y Fiesta yn gryf yng Nghymru. Mae wedi cael canlyniadau da yn y rali hon yn y gorffennol, ac er bod llawer o le i wella ein perfformiad ar y graean, rydym ni’n gweithio’n galed i gyrraedd y nod ac yn hyderus y byddwn yn symud ymlaen.”
Fel gyrrwr lleol, oes gennych chi fantais dros eich gwrthwynebwyr?
“Mae’n debyg fod ‘gwybodaeth leol’ o fantais ers talwm, ond gan fod yr un cymalau’n cael eu defnyddio bob blwyddyn a’r rhan fwyaf o’r gyrwyr wedi cael llawer o brofiad o’r digwyddiad, dwi ddim yn siŵr a oes ffasiwn beth â mantais gartref erbyn hyn.”
Beth yw eich targedau ar gyfer rownd olaf y tymor?
“Ar ôl yr Ariannin a Corsica, yn amlwg baswn i wrth fy modd yn cyrraedd y podiwm am y trydydd tro yng Nghymru. Fydd hynny ddim yn hawdd o ystyried ansawdd y gwrthwynebwyr, ond dwi’n addo y byddwn ni’n gwneud ein gorau glas a dyna fydd ein nod.”
Gall cefnogwyr sydd am weld Evans, Meeke a gweddill hoelion wyth Pencampwriaeth Rali’r Byd yn gwibio drwy goedwigoedd chwedlonol Cymru fanteisio ar brisiau rhatach drwy brynu eu tocynnau ymlaen llaw.
Tocyn Pedwar Diwrnod Rali’r Byd yw’r tocyn sy’n cynnwys popeth ar gyfer y cefnogwr. Mae’n cynnwys mynediad i’r holl Gymalau Arbennig unigol yn ogystal â digwyddiad Shakedown a gynhelir ddydd Iau, cyn y rasio. Pris y tocyn yw £99 i oedolion (neu £1 i blant 9-15 oed sydd yng nghwmni oedolyn), mae hefyd yn cynnwys cerdyn caled a chortyn gwddf, ynghyd â rhaglen y digwyddiad sydd ar werth am £9.
Mae Tocyn y Goedwig yn cynnig yr un math o hyblygrwydd â Thocyn Rali’r Byd ond tocyn diwrnod yn unig yw hwn. Mae’r tocyn hefyd yn cynnwys rhaglen swyddogol. Gellir prynu tocyn ymlaen llawn am £25 – pris tocyn mynediad i Gymal Unigol ar y diwrnod fydd £30.
Mae tocynnau ar gyfer y digwyddiad i deuluoedd yng Nghastell y Waun ddydd Sadwrn, RallyFest, ar gael nawr am £25 ac mae gostyngiad ar gael i deuluoedd. Mae’r holl wybodaeth am docynnau ar gael ar wefan WalesRallyGB.com.
I gael yr wybodaeth ddiweddaraf, dilynwch Rali Cymru GB ar Twitter @walesrallygb neu ymunwch â’r sgwrs ar Facebook www.facebook.com/walesrallygb.