Mwy o Newyddion
Dim ond pum munud i wrthwynebu datblygiad
BYDD protestwyr sy’n gwrthwynebu i ddatblygiad a fyddai’n treblu maint pentref Bodelwyddan, yn cael pum munud i gyflwyno eu dadaleuon gerbron cynghorwyr Sir Ddinbych ddydd Gwener nesaf.
Bydd yr un hawl yn cael ei roi i Gyngor Tref Bodelwyddan a’r cwmni datblygu sydd wedi cyflwyno’r cynllun.
Bydd cynghorwyr yn treulio 20 Mai yn gyfan yn siambr y cyngor yn Rhuthun yn trin a thrafod agweddau ar y cynllun i godi 1,700 o dai newydd, ynghyd ag ysgol, canolfan hamdden a siopau ac undebau diwydiannol, yn y pentref sydd ar hyn o bryd yn gartref i ddim ond 900 o bobl ar fin priffordd yr A55.
“Mi addawodd Prif Weithredwr y Cyngor y bydden ni’n cael dweud ein dweud, ond mae hi’n mynd i fod yn anodd iawn crynhoi pob peth i bum munud,” meddai Alice Jones, o Grŵp Gweithredu Datblygiad Bodelwyddan wrth Y Cymro.
“Ryden ni wedi bod yn gweithio ers chwe blynedd er mwyn gwrthwynebu’r datblygiad yma a fyddai’n cael effaith mor fawr ar ein pentre’ ni… ac mae disgwyl i ni grynhoi hynny i gyd i bum munud! Ond mi fyddwn ni yno, ac mi fyddwn ni’n rhoi ein hachos gerbron yn glir ac yn groyw."
I ddarllen mwy CLICIWCH YMA