Mwy o Newyddion
Penodi Ymddiriedolwyr newydd i Fwrdd Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Mae Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, a’r Athro Syr Deian Hopkin, Llywydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, wedi cyhoeddi heddiw bod tri Ymddiriedolwr newydd wedi’u penodi i Fwrdd Ymddiriedolwyr y Llyfrgell.
Mae’r Dirprwy Weinidog wedi penodi Dr Elizabeth Siberry OBE ac mae Ymddiriedolwyr y Llyfrgell wedi penodi’r Cynghorydd Dyfrig Jones a Mr Richard Houdmont.
Bydd cyfnod gwasanaeth Dr Siberry a’r Cynghorydd Dyfrig Jones yn cychwyn ar 1 Tachwedd a chyfnod gwasanaeth Mr Houdmont yn cychwyn ar 1 Rhagfyr. Bydd cyfnodau’r tri yn parhau am bedair blynedd.
Dywedodd Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Mae’n bleser gen i gyhoeddi bod tri ymddiriedolwr newydd wedi’u penodi i Fwrdd Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Bydd pob un ohonynt yn cyfrannu profiad a gwybodaeth mewn nifer o wahanol feysydd. Rwy’n hyderus y byddant yn helpu’r Llyfrgell i ddatblygu ei hapêl a chyrraedd cynulleidfaoedd newydd.”
Dywedodd yr Athro Syr Deian Hopkin, Llywydd y Llyfrgell: “Mae Bwrdd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn hynod falch i groesawu penodiad tri ymddiriedolwr newydd, Dr Elizabeth Siberry, y Cynghorydd Dyfrig Jones a Mr Richard Houdmount.
"Fe ddaw ein ymddiriedolwyr newydd â phrofiad ac arbenigedd gwerthfawr i’r Bwrdd, ynghyd ag ymrwymiad amlwg i werthoedd a dyheadau’r Llyfrgell a gwn y bydd fy nghyd-ymddiriedolwyr yn ymuno â mi i ddymuno pob llwyddiant iddynt ar ddechrau eu cyfnod o wasanaeth.”