Mwy o Newyddion
Les Misérables yn binacl dathliadau pen-blwydd Gwersyll Caerdydd
Bydd dathliadau Gwersyll yr Urdd Caerdydd yn 10 oed yn cyrraedd uchafbwynt ddiwedd mis Hydref pan fydd sioe Les Misérables, sydd yn gynhyrchiad ar y cyd rhwng Theatr Ieuenctid yr Urdd a Chanolfan Mileniwm Cymru, yn cael ei llwyfannu yn Theatr Donald Gordon, Canolfan Mileniwm Cymru 29, 30 a 31 o Hydref.
Agorwyd drysau’r Gwersyll yn swyddogol gan Bryn Terfel ar y 27 o Dachwedd 2004, a’r mis Mai canlynol cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd am y tro cyntaf ym Mae Caerdydd. Theatr Ieuenctid yr Urdd wnaeth y sioe ieuenctid y flwyddyn honno - fersiwn ysgolion o Les Misérables.
A ddeng mlynedd yn ddiweddarach, mae dau o’r criw cynhyrchu gwreiddiol (Carys Edwards a John Quirk) wedi ymuno gyda Cefin a Rhian Roberts o Ysgol Glanaethwy i gynhyrchu’r sioe eto, gyda chast cryf o 130 o bobl ifanc. Caiff y sioe ei chefnogi gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Mae’r cynhyrchiad eisoes wedi derbyn sêl bendith cyfarwyddwr y sioe yn y West End, Cameron Mackintosh, a’r cast wedi bod yn y Queen’s Theatre, West End yn perfformio yn ystod cyngerdd 30 mlwyddiant y sioe.
Maent nawr yn eu hwythnos olaf o ymarferion cyn y byddant yn perfformio’r sioe yng Nghanolfan Mileniwm Cymru 29 - 31 Hydref.
Yn ôl Carys Edwards, Cyfarwyddwr y sioe yn 2005 a rhan o'r tîm Cyfarwyddo yn 2015, “Dwi’n meddwl mai’r un peth cyffredin rhwng ein cynhyrchiad yn 2005 a’r un eleni yw talent y bobl ifanc – mae gen ti’r perfformwyr gorau o bob ysgol ar draws Cymru yn y cynhyrchiad yma. Mewn sioe ysgol fel arfer mae un neu ddau yn serennu ond mi yda ni wedi cael yr un neu ddau yna o ysgolion ledled Cymru ac mae’r safon wir yn anhygoel.
“Yr her fwyaf i ni ddeng mlynedd yn ôl oedd yr ochr dechnegol - dwi’n cofio mai rhyw ddiwrnod gawsom ni ar gyfer y tech run. Mae ychydig yn wahanol eleni diolch byth gan ein bod yn cael mynediad i’r llwyfan yn gynt!
“Un o’r prif wahaniaethau falle oedd newydd-deb yr holl beth ddeng mlynedd yn ôl – dyna oedd y tro cyntaf i Les Misérables gael ei chyfieithu i’r Gymraeg a’r tro cyntaf i’r Eisteddfod gael ei chynnal yn y Bae - mi oedd yna lot o gynnwrf.
“Un peth fydd yn aros yn y cof eleni, fel yn 2005, fydd ansawdd y sain – mae ganddyn nhw leisiau arbennig iawn. Mi fydd y gynulleidfa wrth eu boddau dwi’n siŵr.”
Llwyfannu’r sioe fydd yn cloi blwyddyn o ddathliadau yng Ngwersyll Caerdydd, gychwynnodd ddathlu fis Tachwedd 2014 gyda Jambori anferth i dros 3,000 yng Nghanolfan y Mileniwm. Ers hynny maent hefyd wedi lansio CD sy’n cynnwys cân newydd gan Caryl Parry Jones o’r enw Deg!.
Tim Edwards yw Cyfarwyddwr Gwersyll Caerdydd. Dywedodd, “Mae hon yn garreg filltir bwysig iawn i ni – mae’n anodd credu fod 10 mlynedd wedi hedfan ers i ni agor ein drysau. Mae’n wych ein bod yn gallu cydweithio gyda Chanolfan Mileniwm Cymru, Ysgol Glanaethwy a Phrifysgol Cymru y Drinod Dewi Sant ar y cynhyrchiad gwefreiddiol hwn.
“Wrth edrych ymlaen i’r 10 mlynedd nesaf, fe hoffwn barhau i gydweithio’n agos gyda Chanolfan Mileniwm Cymru fel bod pob plentyn sydd yn aros yma yn cael profiad celfyddydol – boed hynny yn weld sioe, cael taith tu ôl i’r llenni yn y Ganolfan, perfformio ar Lwyfan y Lanfa neu gael gweithdy celfyddydol. Rydym mewn sefyllfa hollol unigryw fel yr unig rai sydd yn cynnig llety o dan do trawiadol Canolfan y Mileniwm a hoffwn ein bod yn gwneud y mwyaf o hynny.”