Mwy o Newyddion
Sut mae gwasanaethau mabwysiadu wedi gwella yng Nghymru?
I gyd-fynd ag Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu, mae un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol yn holi sut mae gwasanaethau mabwysiadu yng Nghymru wedi gwella ers cyhoeddi adroddiad ar y mater dair blynedd yn ôl.
Yn yr adroddiad hwnnw, galwodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar Lywodraeth Cymru i fod yn fwy uchelgeisiol yn ei chynlluniau i lansio Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol. Hefyd, dywedodd y byddai angen i’r gwasanaeth wneud y newid sylweddol yr oedd ei angen wrth ddarparu gwasanaethau mabwysiadu.
Roedd y Pwyllgor eisiau bod y Gwasanaeth yn ysgwyddo nifer o’r cyfrifoldebau ar gyfer mabwysiadu, gan gynnwys recriwtio a pharatoi mabwysiadwyr a chyflogi ei staff ei hun yn genedlaethol ac yn rhanbarthol i sicrhau gwasanaeth o safon uchel a chyson.
Hefyd, roedd y Pwyllgor eisiau gweld Cofrestr Fabwysiadu Genedlaethol o’r holl ddarpar fabwysiadwyr a phlant er mwyn gwella’r broses baru, a phe bai hynny’n ymarferol bod awdurdodau lleol yn gyfrifol am gymorth ar ôl mabwysiadu nes bod plentyn yn troi’n 18 oed.
Derbyniodd Llywodraeth bron bob un o argymhellion yr adroddiad, naill ai’n llawn neu mewn egwyddor.
Dywedodd Ann Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: “Mae’n dair blynedd ers ein hadroddiad ar wasanaethau mabwysiadu yng Nghymru.
“Mae’r Pwyllgor yn teimlo bod hyn wedi rhoi digon o amser ar gyfer rhoi ein hargymhellion ar waith a dechrau teimlo effaith y newidiadau hynny.
“Felly, hoffem glywed am brofiadau rhieni sydd newydd fabwysiadu, a phlant a phobl ifanc sydd wedi cael eu mabwysiadu yn ystod y cyfnod hwn.
“Mae’r Pwyllgor yn pwysleisio ei farn, lle nad yw’n bosibl i blentyn gael ei fagu gan ei deulu biolegol, y gall mabwysiadu fod yn brofiad cadarnhaol i bawb.
“Rydym eisiau gwybod a yw’r systemau ar gyfer recriwtio mabwysiadwyr a chefnogi plant cyn ac ar ôl mabwysiadu bellach yn fwy syml, yn fwy cefnogol ac yn fwy anogol i’r rheini sy’n ystyried mabwysiadu yn y dyfodol.”
Hefyd, bydd y Pwyllgor yn casglu tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol ac asiantaethau perthnasol, grwpiau pwyso a sefydliadau anllywodraethol eraill.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth