Mwy o Newyddion

RSS Icon
22 Hydref 2015

Cynllun atal trosedd sy’n taro troseddwyr lle mae’n eu brifo fwyaf – yn eu pocedi

Mae pobl ar draws draws Gogledd Cymru yn cael eu hannog i bleidlesio er mwyn rhannu arian a gafodd ei atafaelu gan droseddwyr.

Mae cyfanswm o £42,000 ar gael i’r sefydliadau llwyddiannus sy’n ymrwymo i ddatblygu prosiectau i daclo ymddygiad gwrthgymdeithasol a threchu trosedd ac anhrefn.

Bydd dau grŵp o bob un o chwe sir yr ardal yn cael £3,000 yr un ac mae £6,000 ar gael i grŵp sy’n gweithredu ar draws Gogledd Cymru.

Bydd y grwpiau llwyddiannus yn cael eu dewis gan y cyhoedd yn hwyrach ymlaen eleni.

Cafodd cynllun ‘Eich Cymuned, Eich Dewis' ei lansio gan Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru Winston Roddick CB QC a'r Prif Gwnstabl Cynorthwyol Richard Debicki mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Heddlu Gogledd Cymru a'r Gymuned (PACT).

Mae’n cael ei ariannu gan arian a gafodd ei adennill drwy’r Ddeddf Elw Troseddau; arian a atafaelwyd gan droseddwyr a Chronfa'r Comisiynydd.

Mae cyfle i’r cyhoedd bleidleisio rhwng 26 Hydref a 27 Tachwedd.

Meddai Comisiynydd Roddick: “Mae’n syniad gwych.  Mae’r gronfa nid yn unig yn cefnogi achosion gwerth chweil, ond mae hefyd yn hyrwyddo cyfiawnder.

“Mae hyn yn esiampl o gyfiawnder mydryddol ar waith oherwydd ein bod yn atafaelu holl enillion troseddwyr ac yn ailddosrannu’r arian lle mae ei angen.

“Bydd yn cael ei ddefnyddio gan grwpiau a sefydliadau fydd i gyd yn gwneud rhywbeth i drechu trosedd ac anhrefn neu ymddygiad gwrthgymdeithasol ac mae hyn yn briodol dros ben.

“Bydd yr arian yn cael ei roi i brosiectau fydd yn gwneud gwahaniaeth o ran lleihau trosedd a gwella ansawdd bywyd trigolion cymunedau sy’n dioddef trosedd. “

Mi wnaeth Prif Gwnstabl Cynorthwyol Debicki atgyfnerthu hyn. 

Meddai: “Mae’n dda gweld bod cyfle i grwpiau cymunedol gael mynediad i gronfa ariannol er mwyn gallu lleihau trosedd ac anhrefn o fewn eu cymunedau a gwella ansawdd bywyd yn eu cymuned.

“Mae’n anfon neges bositif bod arian sy’n cael ei gymryd o bocedi troseddwyr yn cael ei ailgylchu.  Mae hyn yn enghraifft o arian drwg yn cael ei droi’n arian da sy’n cael ei ddefnyddio at bwrpas adeiladol.

“Rydym wir yn gwerthfawrogi’r berthynas sydd gennym gyda’r cyhoedd ac yn cydnabod na allwn leihau trosedd ac anrhefn ar ein pen ein hunain.   Mae’n bartneriaeth ac yn ymdrech ar y cyd ag asiantaethau eraill ond hefyd gyda'r cyhoedd eu hunain.

“Yn aml iawn y cyhoedd sy’n gwybod beth fydd yn gweithio orau yn eu hardal nhw ac mae'r ffaith bod cyfle iddynt wneud cais am arian yn rhywbeth positif dros ben."

Yn ôl Cadeirydd PACT David Williams, mae hefyd yn broses ddemocratig iawn oherwydd mai’r cyhoedd fydd yn penderfynu pwy fydd yn cael yr arian.

Meddai Mr Williams: “Un o fanteision y cynllun ydi mai’r cyhoedd yn y pendraw sydd â’r llais a nhw fydd yn penderfynu pa brosiectau sy’n haeddu cael yr arian yma.

“Ac yn briodol, un o’r amodau ydi y bydd rhaid i’r unigolion sy’n ymgeisio am yr arian yma wneud rhywbeth i drechu ymddygiad gwrthgymdeithasol neu daclo trosedd ac anhrefn.

“Mae amcanion cynllun ‘Eich Cymuned, Eich Dewis’ hefyd yn cydweddu ag amcanion Cynllun Heddlu a Throsedd y Comisiynydd ac felly mae’n creu cylch rhinweddol.”

Os hoffech gael mwy o wybodaeth yna ffoniwch 01745 588516 neu ewch i www.northwales-pcc.gov.uk neu www.north-wales.police.uk

Rhannu |