Mwy o Newyddion
Hedfan baner Cymru yn ystod Wythnos Ffilm a Theledu’r DU
Bydd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates, yn hedfan baner Cymru yn ystod Wythnos Ffilm a Theledu’r DU yn Los Angeles yr wythnos hon. Y nod yw hybu ein sector diwydiannau creadigol, sy’n ffynnu ar hyn o bryd, a denu rhagor o gynyrchiadau rhyngwladol o’r radd flaenaf i Gymru.
Cymru yw canolbwynt y sector diwydiannau creadigol y tu allan i Lundain erbyn hyn yn sgil llwyddiannau rhyngwladol diweddar sy’n cynnwys Da Vinci’s Demons a The Bastard Executioner.
Caiff Wythnos Ffilm a Theledu’r DU ei threfnu gan Gomisiwn Ffilm Prydain ac mae’n creu cyfleoedd i rwydweithio â stiwdios a chwmnïau cynhyrchu yn yr Unol Daleithiau. Prif bwrpas yr wythnos yw tynnu sylw unigolion allweddol o fewn y diwydiant at y cyfleusterau cynhyrchu rhagorol a’r golygfeydd ysblennydd sy’n golygu bod Cymru’n lleoliad delfrydol ar gyfer gwaith ffilmio.
Bydd y Dirprwy Weinidog yn mynychu cyfres o ddigwyddiadau a chyfarfodydd gyda swyddogion gweithredol uchel eu proffil ym maes teledu a ffilm, gan gynnwys Twentieth Century Fox, Netflix, Is-Lywydd Gweithredol Pinewood USA a Jane Tranter a Julie Gardner o gwmni cynhyrchu Bad Wolf. Bydd y Dirprwy Weinidog yn manteisio ar y cyfleoedd hyn er mwyn trafod sut y gall Llywodraeth Cymru gefnogi a denu cynyrchiadau teledu ar raddfa fawr i Gymru.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog: “Mae Wythnos Ffilm a Theledu’r DU yn creu cyfle i ni hybu llwyddiannau mawr Cymru wrth gynhyrchu dramâu teledu a ffilmiau o’r radd flaenaf ynghyd â’n cyfleusterau a’n golygfeydd rhagorol a’n gweithlu medrus.
“Fel rhan o’n huchelgais i sicrhau bod Cymru’n datblygu’n ganolfan ragoriaeth ryngwladol ar gyfer y diwydiannau creadigol rydym wedi creu pecynnau cymorth sydd wedi helpu i sicrhau bod y diwydiant yng Nghymru wedi tyfu lawer yn fwy na gweddill y DU yn ystod yr un cyfnod.
“Mae manteision economaidd sylweddol ar gyfer pob sector yn deillio o hyn, gan gynnwys manteision twristiaeth. Cafodd 200 o ystafelloedd gwely eu llenwi yn Sir Benfro yr wythnos ddiwethaf yn sgil gwaith cynhyrchu yno. Dyma hwb sylweddol i’r diwydiant twristiaeth yn ystod cyfnod cymharol dawel. Mae delweddau o olygfeydd ysblennydd Cymru hefyd yn cael eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol a’u darlledu ar draws y byd. Gall sylw o’r fath fod yn amhrisiadwy o safbwynt denu rhagor o ymwelwyr rhyngwladol i Gymru.
“Rwy’n bwriadu manteisio ar bob cyfle yn ystod fy ymweliad i hybu’r hyn y gall Cymru ei gynnig. Dylem felly allu edrych ymlaen at weld hyd yn oed mwy o gynyrchiadau drama rhyngwladol ar gyfer y teledu yn dod i Gymru.”
Y diwydiannau creadigol yw sector â blaenoriaeth Llywodraeth Cymru sy’n tyfu gyflymaf, gan ysgogi manteision economaidd sylweddol a chreu cyfleoedd i feithrin sgiliau cynhyrchu newydd mewn meysydd fel cynllunio setiau ac effeithiau gweledol.
Yn ystod blwyddyn ariannol 2014-2015 gwariodd cynyrchiadau drama ar gyfer y teledu a gefnogwyd gan Lywodraeth Cymru dros £32 miliwn ar wasanaethau a ddarparwyd gan fusnesau a gweithwyr llawrydd unigol yng Nghymru.
Dengys ystadegau diweddar fod nifer y bobl sy’n gweithio o fewn y diwydiant hwn yng Nghymru wedi cynyddu 52% rhwng 2005 a 2014, a bod y sector bellach yn cyflogi bron i 50,000 o bobl.
Fis diwethaf gwnaeth Fox Television 21, gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru, sicrhau prydles hirdymor ar gyfer Stiwdios Dragon ym Mhencoed. Defnyddiwyd y stiwdios hyn ar gyfer ffilmio’r gyfres deledu hanesyddol uchel iawn ei phroffil The Bastard Executioner.