Mwy o Newyddion
Croesawu ffoaduriaid cyn y Nadolig
Mae Ceredigion wedi penderfynu derbyn gwahaoddiad y Swyddfa Gartref i fod yn ‘Awdurdod Arloesol’ wrth gefnogi’r ffoaduriaid o Syria.
Gwnaed y penderfyniad yn ystod ail gyfarfod Grŵp Gorchwyl a Gorffen Ffoaduriaid Syria ar ddydd Mercher 14 Hydref 2015.
Golyga hyn mai Ceredigion fydd un o’r siroedd cyntaf yng Nghymru i allu derbyn y ffoaduriaid yn ystod Cyfnod Un y Cynllun Adleoli Personau Bregus o Syria. Disgwylir y bydd y ffoaduriaid cyntaf yn cyrraedd Aberystwyth cyn y Nadolig. Mae tai o’r sector breifat wedi’u hadnabod a bydd tenantiaethau yn cael eu rheoli gan sefydliad gwirfoddol. Mae’r trefniant yma yn golygu nad oes bwriad i leoli’r ffoaduriaid mewn tai cymdeithasol.
Mae trafodaethau cadarnhaol yn parhau gyda’r Swyddfa Gartref i gadarnhau cyllid a chefnogaeth ar gyfer y trefniadau yma.
Dywedodd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Cadeirydd y Grŵp ac Arweinydd y Cyngor: “Wrth ddod yn Awdurdod Arloesol, mae Ceredigion yn gallu cyfrannu i’r ymdrechion ledled Cymru cyn gynted â phosib er mwyn cefnogi’r ffoaduriaid.
"Mae’r holl bartneriaid sy’n rhan o’r Grŵp yn parhau i gydweithio er budd yr ymdrechion yma, ac mae’r trefniadau ar gyfer derbyn y ffoaduriaid yn datblygu’n dda. Mae’r gefnogaeth sydd wedi ei arddangos gan drigolion Ceredigion i'r ffoaduriaid yn galondid mawr wrth i ni helpu i ymateb i’r argyfwng yma.”
Mae’r Grŵp yn cynrychioli’r dull partneriaeth a gydlynir ac arweinir arno gan Gyngor Sir Ceredigion fel rhan o’r Bwrdd Gwasanaethau Lleol, gyda chynrychiolwyr o bob partner sefydliad perthnasol yn rhan o’r Grŵp.
Mae dyfodiaid posib wedi cae eu hadnabod gan Uchel Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig dros Ffoaduriaid o wersylloedd ffoaduriaid yn y Dwyrain Canol ac wedi eu cyfeirio trwy rhaglen y Swyddfa Gartref i ddarparu cartrefi ar gyfer hyd at 20,000 o ffoaduriaid yn y DU.
Llun: Ellen ap Gwyn