Mwy o Newyddion
Dyfodol yr Ysgwrn
MAE’N bwrw glaw taranau yn Nhrawsfynydd ar brynhawn o Fai, a dydi’r cymylau duon yn addo dim gwell. Mae’r glaw yn cerdded fel bysedd blin dros Groesffordd Ty’n y Coed tuag at Yr Ysgwrn, cartref Hedd Wyn. Mae arogl mwg tân ar y gwynt yn argoel o groeso ar ben y daith.
Mae dau ffigwr ar ben y drws yn ein croesawu. Gerald Williams ydi’r henwr bachgennaidd, penwyn – nai i Hedd Wyn a fagwyd yn Yr Ysgwrn ac sy’n dal i anrhydeddu’r addewid a wnaeth i’w nain (mam Hedd Wyn) y byddai’n estyn croeso a thân agored i bwy bynnag fyddai am ddod i weld y bwthyn bach. Nigel, “mab fy nghefnder”, ydi’r gŵr athletaidd, penfoel, wrth ei ochr. Fo ydi’r genhedlaeth nesaf i afael yn y stori a’i rhannu ag ymwelwyr.
Mae yna fwy nag un ystyr i do newydd Yr Ysgwrn eleni. Mae Nigel, sy’n ei 40au, yn cynrychioli un, ond mae hefyd yn sôn am y gontract o ail-doi’r tŷ eleni gyda llechi mawr, heglog, sy’n gorfod cael eu paratoi yn arbennig at y gwaith.
Mae’r naill beth a’r llall yn digwydd tra bod rhaglen radio yn trafod be’ ddaw o’r hen le unwaith y bydd Gerald wedi marw. A ddylid diogelu’r lle trwy ei brynu gan ymddiriedolaeth leol, ynteu a ddylid symud yr hen le, fesul carreg, i Amgueddfa Cymru Sain Ffagan.
I ddarllen mwy CLICIWCH YMA