Mwy o Newyddion

RSS Icon
21 Hydref 2015

Dechrau gwaith adfer Yr Ysgwrn

Yr wythnos hon, dechreuwyd ar y gwaith o adfer a gwella safle’r Ysgwrn ac mae sawl cyfle i’r cyhoedd ymweld â’r llecyn hanesyddol hwn wedi eu trefnu ar gyfer yr wythnosau nesaf.

Fel rhan o Ŵyl Amgueddfeydd Cymru, ar ddydd Mercher, Hydref 28ain bydd cyfle i blant a’u rhieni wneud addurniadau Calan Gaeaf fel rhan o weithdy celf yn Neuadd Trawsfynydd.

Yna, Ddydd Gwener, 30ain o Hydref, rhwng 11 a 3, cynhelir diwrnod agored yn Yr Ysgwrn  pan fydd cyfle i sgwrsio â’r tîm sy’n gofalu am yr Ysgwrn, edrych ar gynlluniau’r safle a chyfle hefyd i sgwrsio â Gerald Williams, nai Hedd Wyn a chael hanes teulu’r Ysgwrn a’r Gadair Ddu.

Gyda’r nos, bydd cyfle i weld yr addurniadau Calan Gaeaf a wnaed yn y gweithdy celf yn Nhrawsfynydd cyn mwynhau Noson Calan Gaeaf.  Ni fydd y noson hon ar gyfer y gwan galon wrth i’r storïwr Mair Tomos Ifans rannu straeon ysbryd ac ofergoelion cefn gwlad yn y Beudy Tŷ yng ngolau llusern.

Dywedodd Sian Griffiths, Rheolwr Prosiect yr Ysgwrn: “Rydym yn hynod o falch bod y gwaith wedi cychwyn. Bydd y Diwrnod Agored yn gyfle i ni esbonio beth sy’n digwydd ar y safle dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf. Gwnaed llawer o waith paratoi eisoes, er enghraifft wrth i ni ymchwilio i hanes y gegin, dyma ddarganfod  fod 26 haen o bapur wal amrywiol a lliwgar yn gorchuddio’r waliau! 

"O ran y gwaith sydd o’n blaenau, bydd adeiladwyr yn adfer y cwt mochyn, gosod seiliau i’r boilar biomas a chodi sied amaethyddol newydd gyda tho gwair rhwng rŵan a mis Mawrth nesaf. Yna, byddwn yn edrych ar adnewyddu’r tŷ ei hun, y Beudy Tŷ a throi’r Beudy Llwyd yn adeilad croeso, yn ogystal â gosod maes parcio newydd sbon, trwsio waliau cerrig, adfer gerddi a chwblhau gwaith llwybrau ac amgylcheddol amrywiol hefyd.

"Yn anffodus, golyga hyn na fydd mynediad i’r cyhoedd i’r Ysgwrn o Dachwedd 30ain ymlaen hyd ail agor y safle yn ystod y Gwanwyn 2017. Er y byddwn ni’n parhau i rannu straeon a hanesion Hedd Wyn a’r Ysgwrn ym Mhlas Tan y Bwlch lle mae arddangosfa arbennig iawn yn cynnwys replica’r Gadair Ddu, y diwrnod agored hwn yw un o’r cyfleoedd olaf i weld y safle yn ei ffurf bresennol.”

Cynhelir y Noson Calan gaeaf yn Gymraeg a bydd yn gyfle gwych i ddysgwyr ymarfer eu Cymraeg. Er mwyn archebu lle, neu i gael  mwy o wybodaeth am ymweld âr Ysgwrn cyn iddo gau, cysylltwch â swyddogion Yr Ysgwrn yn Swyddfa’r Parc Cenedlaethol ym Mhenrhyndeudraeth, drwy ffonio 01766 770275 neu drwy e-bost ysgwrn@eryri-npa.gov.uk.

Rhannu |