Mwy o Newyddion
Creu dros 380 o swyddi newydd yng Nghaerdydd
Mae Firstsource Solutions, darparwr gwasanaethau Rheoli Prosesau Busnes pwrpasol yn fyd-eang, yn ehangu, gan agor ail ganolfan gyswllt yng Nghaerdydd a chreu bron i 390 o swyddi, gyda chymorth Llywodraeth Cymru.
Wrth gyhoeddi heddiw bod y cwmni yn ehangu, disgrifiodd Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, ei fod yn newyddion rhagorol ac yn hwb eto ar gyfer y sector gwasanaethau ariannol a phroffesiynol, sy’n ehangu’n gyflym yn Ne Cymru.
Mae’r cymorth gan Lywodraeth Cymru ar gyfer creu 387 o swyddi, ac mae 100 ohonynt eisoes wedi’u recriwtio. Mae’r broses ehangu, sydd hefyd yn derbyn cymorth gan Gyngor Dinas Caerdydd, o ganlyniad i’r ffaith bod y cwmni wedi ennill dau gontract newydd ar gyfer gwasanaethau cwsmeriaid, gyda chwmni cyfryngau yn y DU, a chwmni busnes adloniant byd-eang oedd y llall.
Agorodd Firstsource Solutions ei ganolfan cyntaf yn Discovery House ym Mae Caerdydd yn 2012, ble y mae bellach yn cyflogi bron i 1000 o bobl ac mae i agor ail ganolfan yn Oakleigh House yng nghanol y ddinas.
Dywedodd y Gweinidog: ”Dwi’n falch iawn bod y contractau newydd hyn wedi’u sicrhau gyda cwmni Firstsource yng Nghaerdydd, sydd wedi bod yn llwyddiant mawr.
“Cefais y pleser o agor eu canolfan gyntaf yn swyddogol yng Nghaerdydd yn 2012 pan ragwelwyd y byddai 600 o swyddi’n cael eu creu. Maent wedi gwneud yn llawer gwell na’r disgwyl, ac maent bellach yn cyflogi bron 1000 o bobl newydd, tra bo’r ehangu diweddaraf hwn yn creu dros 380 o swyddi newydd.
“Mae penderfyniad y cwmni i agor canolfan newydd yng Nghaerdydd yn anfon neges gref iawn bod Cymru yn lleoliad gwych ar gyfer cwmni sy’n dymuno datblygu eu busnes.”
O ganlyniad i’r contractau newydd, bydd Firstsource yn cyflwyno gweithgareddau newydd digidol i gwsmeriaid ac yn recriwtio mwy o staff aml-ieithog i wasanaethu marchnadoedd Ewropeaidd. Mae hyn yn ychwanegol at y cwsmeriaid hynny sydd eisoes yn cael eu gwasanaethau yn y diwydiannau darlledu, bancio, ariannol a gwasanaethau proffesiynol o Discovery House.
Meddai Kathryn Chivers, Is-Lywydd Firstsource Solutions – Gwerthiant: “Mae hyn yn newyddion gwych i’r busnes wrth inni ehangu ein gwasanaethau i i ragor o gleientiaid a hefyd yn newyddion gwych i’r economi ac i bobl Caerdydd. Mae gennym eisoes bron i 1,000 o weithwyr yng Nghaerdydd sy’n canolbwyntio ar ‘ei wneud yn lle gwych i weithio.
“Mae o fantais sylweddol i feddu ar weithlu lleol dawnus sydd wedi’u hysgogi er mwyn eu defnyddio ar gyfer yr ymgyrch ehangu fawr hon.”
Mae Firstsource, sy’n gwasanaethau y diwydiannau Telethrebu a’r Cyfryngau, Bancio a’r Gwasanaethau Ariannol a Gofal Iechyd, wedi ennill sawl gwobr o fewn y diwydiant, gan gynnwys tair gwobr yng Ngwobrau Canolfannau Cyswllt Cymru 2015 yng Nghaerdydd ym mis Mawrth eleni – mwy nag unrhyw gwmni arall yno.
Llun: Bu i Carwyn Jones, y Prif Weinidog, gyfarfod â Mr Dinesh Jain, Prif Swyddog Cyllid Firstsource, yn ystod ei ymweliad â’r India Hydref diwethaf